ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
Dau berson yn cael cyfarfod busnes

Graddau Busnes a Rheolaeth Israddedig

Ym Mhrifysgol Bangor, mae ein graddau Busnes, Rheolaeth ac Entrepreneuriaeth yn cyfuno dysgu academaidd â phrofiad ymarferol o'r byd go iawn. Byddi di'n datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym maes busnes a rheolaeth, gan astudio o fewn cymuned groesawgar a chefnogol. 

Rydym yn #1 yn y DU ar gyfer Busnes a Rheolaeth, gyda 100% am ansawdd addysgu a chefnogaeth academaidd (Unifresher 2027).

Ar y dudalen hon:
Cyrsiau busnes a rheolaeth

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

Darganfyddwch y cwrs Busnes, Rheolaeth neu Entrepreneuriaeth i chi

Cyfrifeg a Rheolaeth - BSc (Anrh)
Mae'r radd hon, sydd â gogwydd proffesiynol iddi, mewn Cyfrifeg a Rheolaeth yn cyfuno eich diddordebau yn y ddau bwnc. Enillwch set sgiliau unigryw a chael gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N4N2
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Cyfrifeg a Rheolaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen mewn Cyfrifeg a Rheolaeth. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr y diwydiant, byddwch yn meistroli sgiliau academaidd a digidol hanfodol, ac yn gweithio tuag at eithriadau o arholiadau cyfrifyddu proffesiynol.
Cod UCAS
N4NF
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Dadansoddeg Data Busnes - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N313
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Dadansoddeg Data Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Enillwch sgiliau y mae galw amdanynt i ddadansoddi gwybodaeth fusnes. Dewch i gael mewnwelediadau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Cod UCAS
N31F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Marchnata - BSc (Anrh)
Bydd gradd mewn Marchnata yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau i ddeall defnyddwyr, gwybod beth mae arnyn nhw ei eisiau, a gwybod sut i hyrwyddo cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau.
Cod UCAS
N501
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa farchnata. Bydd y cwrs BSc Marchnata (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn eich paratoi i lwyddo trwy roi sylfaen gref i chi a sgiliau i’ch paratoi ar gyfer y diwydiant.
Cod UCAS
N50F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth - BSc (Anrh)
Lansiwch fusnes eich breuddwydion. Bydd y BSc mewn Menter Busnes ac Entrepreneuriaeth yn eich arfogi â'r sgiliau i arloesi, arwain, a throi syniadau yn realiti.
Cod UCAS
N111
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Rheolaeth Busnes - BSc (Anrh)
Mae Rheolaeth Busnes yn ymgorffori damcaniaethau academaidd a heriau’r byd go iawn. Enillwch sgiliau i ffynnu mewn busnes.
Cod UCAS
N200
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Rheolaeth Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Bwriedir y cwrs Rheolaeth Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen) ar gyfer y rhai sydd eisiau gradd ond nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion mynediad neu sy’n meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Cod UCAS
N20F
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Rheoli Twristiaeth - BSc (Anrh)
Lansiwch eich gyrfa deithiol. Bydd y BSc mewn Rheoli Twristiaeth yn eich arfogi i reoli cyrchfannau, cynllunio teithiau a marchnata profiadau’n fyd-eang.
Cod UCAS
N832
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Rheoli Twristiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BSc (Anrh)
Adeiladwch sylfaen i lansio eich gyrfa deithiol. Paratowch ar gyfer rheoli cyrchfannau, cynllunio teithiau a marchnata profiadau’n fyd-eang trwy wneud blwyddyn sylfaen bwrpasol.
Cod UCAS
N833
Cymhwyster
BSc (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL
Dau fyfyriwr yn cerdded drwy adeilad modern Pontio ym Mhrifysgol Bangor, yn gwenu. Mae graffig tarian goch a'r testun “Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor†yn dangos.
Trawsgrifiad fideo: Ysgol Fusnes Albert Gubay

[DISGRIFIAD SAIN] Golygfa eang o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor ar ddiwrnod clir. Mae myfyrwyr yn astudio'n dawel yn llyfrgell y Brifysgol wrth i ddarlithydd annerch y camera.

[TROSLAIS] Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd anrhagweladwy, a gall fod yn anodd i bobl ddeall sut y gallant byth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn sefyll ar ochr bryn, wedi'i amgylchynu gan goed. Y tu mewn, mae myfyrwyr yn mynychu darlith ac yn ysgrifennu nodiadau. Darlithydd yn siarad yn uniongyrchol i'r camera.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, ein cred greiddiol yw y gellwch ysgogi newid cadarnhaol, ar draws y byd gyda’r addysg gywir a’r set sgiliau gywir.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad â darlithydd mewn caffi, gan drafod eu gwaith.

[TROSLAIS] Rydym yn hyderus o hyn oherwydd bod ein staff ymchwil, a'n graddedigion, yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd, gan fynd i'r afael â heriau busnes y byd go iawn.

[DISGRIFIAD SAIN] Ar y Llawr Masnachu, mae myfyrwyr yn gweithio mewn terfynellau Bloomberg wrth i ddarlithydd esbonio data ar sgrin fawr. Mae lluniau byr yn dangos Llundain, strydoedd y ddinas, gwaith cynaliadwyedd, a gweithgarwch ymchwil.

[TROSLAIS] Boed hynny'n defnyddio dadansoddeg data i yrru effeithlonrwydd stryd fawr leol, datblygu polisïau cynaliadwy pendant ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r perthnasoedd rhwng brandiau a sbwriel, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy'n well i'w hiechyd a'r amgylchedd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae dau fyfyriwr yn cerdded gyda'i gilydd drwy'r Prif Adeilad, yna'n gweithio ar liniadur yn Neuadd Pritchard Jones.

[TROSLAIS] Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae golygfeydd o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos, gyda mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri yn y pellter. Mae myfyrwyr yn gweithio ar y Llawr Masnachu ac yn Llyfrgell Shankland.

[TROSLAIS] Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, mae traddodiad yn cwrdd ag arloesedd, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf, megis ein terfynellau Bloomberg, ychydig funudau ar droed o Ddarllenfa Shankland.

[DISGRIFIAD SAIN] Dangosir yr Hen Goleg ar ddiwrnod clir, wedi'i amgylchynu gan wyrddni. Mae academydd yn siarad â'r camera. Mae ffotograff hanesyddol o'r Brifysgol yn ymddangos.

[TROSLAIS] Nid damwain yw twf a datblygiad yr ysgol fusnes, rydym yn un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn cyfarfod â staff academaidd i drafod eu haseiniadau.

[TROSLAIS] Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn defnyddio terfynellau Bloomberg. Mae golygfeydd o'r awyr yn dangos Bangor, dinas yn y Deyrnas Unedig a dinas ryngwladol. Dangosir addysgu, cefnogaeth un-i-un, a gwaith cydweithredol. Yn M‑SParc, mae cyflogwyr yn gweithio mewn gofod modern, ac mae penset rhithrealiti yn cael ei arddangos.

[TROSLAIS] Heddiw, rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraeth ac elusennau yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd, i wella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd i ddarparu addysg ragorol trwy deithiau maes ac amlygiad i arbenigedd amrywiol yn y diwydiant, gan ddarparu'r sgiliau y mae cyflogwyr wir eu heisiau.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae Prif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos eto. Mae dau fyfyriwr yn eistedd ar y glaswellt y tu allan, yn darllen gyda'i gilydd.

[TROSLAIS] Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fwy na dim ond lle i astudio.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae myfyrwyr yn siarad ac yn chwerthin yn yr awyr agored. Staff academaidd yn annerch y camera.

[TROSLAIS] Dyma lle caiff arweinwyr y dyfodol eu creu, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle mae heriau byd-eang yn cael eu datrys yn arloesol.

[DISGRIFIAD SAIN] Mae lluniau cyflym yn dangos myfyrwyr yn dysgu ar draws darlithoedd, gwaith grŵp a chyfleusterau arbenigol. Mae'r ffilm yn gorffen gyda golygfa o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau, wedi'i gorchuddio ag arfbais y Brifysgol ac enw'r ysgol.

[TROSLAIS] Rydym yn creu arweinwyr busnes y dyfodol, a byddem wrth ein bodd yn dy groesawu i ymuno â ni i lywio’r dyfodol.

Georgia Stanmore a Bangor Business School student.

Blog Profiad gwaith Georgia

Treuliais flwyddyn mewn diwydiant fel intern Gwerthiant Masnachol yn VMware. Mae'r cwmni’n un o frandiau mwyaf blaenllaw’r diwydiant technoleg ac mae'n arbenigo mewn cyfrifiadura a rhithwiroli. Nid wyf yn un sy’n frwd ofnadwy dros dechnoleg ond bu llawer o’r teulu’n dilyn gyrfaoedd ym maes Gwerthu ac mae gen i brofiad yn y maes hefyd, ac felly mi oedd hi’n briodol imi wneud cais am rôl fel hon. Penderfynais i weithio yn y diwydiant hwnnw oherwydd mai mewn gwerthiant y mae’r arian mawr! Roedd VMware yn un o nifer fawr o gwmnïau technoleg y gwnes i gais iddynt ond rwy’n hapus iawn yma.

Tom Haynes a Bangor Business School Graduate

Graddedigion yn llwyddo Tom Haynes

"Diolch i'r arweiniad a'r gefnogaeth cefais gan fy narlithwyr, mi wnes i adel Bangor gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ac rwyf bellach yn gweithio fel Gweithredwr CRM Rhyngwladol yn Castore."

"Helpodd y cwrs fi i ddeall y mecanweithiau y tu ôl i sut mae defnyddwyr yn ymgysylltu â chynhyrchion a brandiau a sut y gall sefydliadau ddysgu monitro'r ymddygiadau hynny a darparu gwerth yn ôl i'w defnyddwyr."

A student sits at a desk talking with a lecturer who is sat on the other side of the desk.

Prifysgol Bangor ar frig rhestr busnes a rheolaeth

Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd brig rhestr gan ganllaw myfyrwyr annibynnol yn y Deyrnas Unedig, Unifresher, ym maes pwnc busnes a rheolaeth yn 2027.

Casglodd y Brifysgol gyfanswm o 242 pwynt — gan gyflawni 100% ar ansawdd addysgu a chefnogaeth academaidd wrth gynnig y gost byw fwyaf fforddiadwy o unrhyw ysgol fusnes yn y set ddata hon.

Logo CMI

Chartered Management Institute (CMI) Graddio gyda mwy na gradd

Mae ein BSc Rheolaeth Busnes, sydd wedi ei achredu gan CMI, yn caniatáu ichi ennill cymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol ar yr un pryd â'ch gradd. Byddwch yn elwa o aelodaeth CMI am ddim, gyda mynediad at adnoddau gyrfa a rhwydweithiau diwydiant a gallwch ennill statws Rheolwr Siartredig Sefydliad (fCMgr). Bydd hyn yn eich rhoi ar y llwybr i fod yn rheolwr siartredig ac yn eich helpu i sefyll allan i gyflogwyr, gyda 87% o fyfyrwyr yn dweud bod achrediad CMI yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy (CMI 2026).

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Busnes, Marchnata a Rheolaeth. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Busnes, Marchnata a Rheolaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Busnes, Marchnata a Rheolaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Darlun pensaer o Ysgol Busnes Albert Gubay

Rhodd o £10.5 miliwn i sefydlu ‘Ysgol Fusnes Albert Gubay’ ym Mhrifysgol Bangor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern.

Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.