ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
Picture of a garden at Chelsea Flower Show

Gardd sydd wedi ennill gwobr aur yn sioe flodau chelsea i gael ei lleoli yng Ngardd Fotaneg Treborth wedi’r sioe

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno gardd yn Sioe Flodau Chelsea eleni ochr yn ochr â Maint Cymru ac wedi ei noddi gan broject uchel ei barch - Project Giving Back. Mae'r prosiect hwn yn mynd y tu hwnt i arddangos yr hyn fedrwn ni ei wneud o ran dylunio; mae'n ymdrech ddiffuant i dynnu sylw at y rhan hanfodol y mae coedwigoedd trofannol yn chwarae wrth gynnal bioamrywiaeth y blaned. Bu fy nhad yn gweithio am dros ddegawd i elusen gwrth-ddatgoedwigo yn Affrica Is-Sahara, ac felly cefais fy magu’n rhannol yn y Swdan, felly mae’r materion hyn bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon. Nod y cydweithrediad yw ysbrydoli ymwelwyr a sbarduno sgyrsiau am yr angen dybryd i weithredu arferion cadwriaethol a chynaliadwy.
Dan Bristow,  Cyfarwyddwr Studio Bristow