Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Gyda chefnogaeth y datblygiadau diweddaraf mewn iechyd menywod, bydwreigiaeth a gofal mamolaeth, bydd y cwrs newydd cyffrous hwn o ddiddordeb i fydwragedd cymwysedig a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd mewn meysydd perthnasol eraill. Bydd y rhaglen hon yn herio bydwragedd i edrych yn feirniadol ar sut y gallant weithio i sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael y profiad gorau wrth roi genedigaeth gan ganolbwyntio'n arbennig ar atal cenhedlu a materion iechyd cysylltiedig.
Bydd gan raddedigion y rhaglen hon nid yn unig y gallu i adfyfyrio ar ymarfer proffesiynol i wella hunanymwybyddiaeth a datblygiad proffesiynol ond hefyd y sgiliau a'r sylfaen wybodaeth i ddadansoddi'n feirniadol a gwerthuso’r ddarpariaeth gofal mamolaeth er mwyn nodi meysydd i'w datblygu.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o rôl y fydwraig wrth wella iechyd a lles a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gorau o’r profiad geni. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymhellach wrth weithio gyda ac ar gyfer menywod a chymunedau i wneud y gorau o'r profiad geni, hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau unigolion.
Mae modiwlau nodweddiadol yn y gorffennol wedi cynnwys:
- Optimeiddio Geni Plant
- Atal Cenhedlu ac Iechyd Cysylltiedig
- Un modiwl arall o'r MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth
Sylwch y gall modiwlau newid.
Gofynion Mynediad
I gael eich ystyried ar gyfer mynediad i'r rhaglen, dylech fod wedi eich cofrestru fel Bydwraig neu'n meddu ar gymhwyster gofal iechyd perthnasol arall yn eich gwlad eich hun gyda gdosbarth 2 (ii) neu uwch. Fel arall, cewch eich ystyried os ydych yn meddu ar gymhwyster a phrofiad gwaith addas.
Myfyrwyr Rhyngwladol: Mae'r cwrs hwn yn rhan-amser felly nid yw'n agored i fyfyrwyr tramor (nad ydynt yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd).