Sioe a Chynhadledd Dylunio Cynnyrch yn arddangos projectau myfyrwyr a sgyrsiau ysbrydoledig
Roedd y sioe radd Dylunio Cynnyrch yn arddangos gwaith project rhyfeddol myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, a鈥檙 ail a鈥檙 drydedd, gan gynnig cipolwg ar eu gallu creadigol. Roedd yno gadair a gafodd ei saern茂o'n ofalus iawn a phadl can诺 na ellir ei dorri, sefydlogwr ysdol, silffoedd atig pwrpasol, a dodrefn a harnais arloesol i anifeiliaid a ch诺n, dangosai鈥檙 arddangosfeydd ymroddiad a meistrolaeth y myfyrwyr dros eu crefft. Yn ogystal, roedd y sioe鈥檔 cynnwys syniad arloesol i ailddatblygu canolfan myfyrwyr Bangor, o dan arweiniad cwmn茂au sy'n cydweithio, a amlygai effaith eu dyluniadau yn y byd go iawn.
Ymysg projectau nodedig y myfyrwyr roedd gi芒t leuad o鈥檙 flwyddyn 1af a wnaed o fetel, ac a ddatblygwyd o dan arweiniad y dylunydd Gerallt Evans. Roedd y dasg yn gyfle i鈥檙 myfyrwyr arddangos eu sgiliau mewn crefftwaith metel, gan arwain at greadigaethau syfrdanol a wthiai ffiniau鈥檙 dychymyg a dylunio.
Dywedodd un o鈥檙 myfyrwyr, Leanne Melia (myfyriwr yn ei hail flwyddyn ar BSc Dylunio Cynnyrch)
Roeddwn i wrth fy modd yn arddangos rhywfaint o'n gwaith project. Mewn un gwaith cwrs cawsom y dasg o ddod o hyd i ddefnyddiau amgen ar gyfer gwl芒n. Rwy'n falch o gyflwyno creadigaethau fel y bowlen wl芒n a'r clip gwregys ar gyfer t诺ls. Mae gwl芒n yn ddeunydd amlbwrpas, a thrwy ein dyluniadau, y nod oedd herio hen syniadau ac amlygu鈥檙 potensial sydd iddo y tu hwnt i鈥檙 traddodiadol.
Roedd bod yn rhan o鈥檙 arddangosfa鈥檔 fodd imi i rannu fy mrwdfrydedd dros ddylunio arloesol. Fel myfyriwr yn yr ail flwyddyn, edrychaf ymlaen yn eiddgar at y cyfle i gyflwyno fy ngwaith y flwyddyn nesaf. Nid yn unig mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 llwyfan i amlygu creadigrwydd a sgiliau technegol myfyrwyr mae hefyd yn gyfle i gyfrannu at y gymuned ddylunio fywiog ym Mhrifysgol Bangor
Gwaith dylunio myfyrwyr
Talk Design Live 2023
I gyd-fynd 芒'r sioe radd, daeth cynhadledd "Talk Design Live 2023" 芒 siaradwyr dylanwadol ynghyd a rannodd eu syniadau a'u profiadau gyda'r gynulleidfa. Ymhlith y siaradwyr nodedig oedd Jo Barnard, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol cwmni ymgynghori dylunio ac arloesi diwydiannol Morrama, Cath Aran, Stor茂wraig ddwyieithog gyda phrofiad helaeth o berfformio theatrig. Croesawyd dau gyn-fyfyriwr yn 么l fel siaradwyr, sef Luke Schofield sy鈥檔 ddylunydd cynnyrch arweiniol yn Harrison Spinks ac Olivia Kavanagh sy鈥檔 rheoli cysylltiadau marchnata ac ysgolion yng Ngholeg Xaverian, a Sam Gwilt, dylunydd yn asiantaeth ddylunio Layer sy鈥榥 creu dipyn o st诺r ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y gynhadledd yn llwyfan i gynnal trafodaethau ar y tueddiadau dylunio, y datblygiadau technolegol, a鈥檙 gyrfaoedd diweddaraf mewn dylunio.
Wrth s么n am y digwyddiadau, roedd, Mr Peredur Williams, darlithydd Dylunio Cynnyrch, yn falch o gyflawniadau'r myfyrwyr a llwyddiant cyffredinol yr arddangosfa ddylunio a'r gynhadledd.
Rydym yn ymroddedig i feithrin creadigrwydd a rhoi'r offer angenrheidiol i鈥檙 myfyrwyr ffynnu yn y diwydiant dylunio,
Roedd y sioe radd Dylunio Cynnyrch a chynhadledd 鈥榯alk design live 2023鈥 yn llwyfannau rhyfeddol i鈥檙 myfyrwyr arddangos eu doniau ac i鈥檙 cynadleddwyr gael cipolwg gwerthfawr gan arweinwyr y diwydiant.
Am fwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒 Peredur Williams neu Aled Willians, neu i astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor gweler ein cyrsiau, ein tudalen neu ein sianeli .
Golygydd: J.C.Roberts