Mae Baner y Brifysgol yn cael ei chwifio er cof am John Emlyn Owen - 27/10/26
Rhannwch y dudalen hon
Mae Baner y Brifysgol yn cael ei chwifio er cof am John Emlyn Owen. Roedd yn gweithio fel Goruchwyliwr Cynnal a Chadw, gan ddechrau ei yrfa gyda Seddons yn darparu gwasanaethau i Brifysgol Bangor. Yn dilyn trosglwyddiad TUPE, daeth yn gyflogai i'r Brifysgol a pharhaodd yn ei swydd am oddeutu 10 i 15 mlynedd. Ymddeolodd tua phedair blynedd yn ôl ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth i'r Brifysgol.
Yr Athro Edmund Burke
Is-Ganghellor
27/10/2026