Gweithdy DPP CELT: Defnyddio Ymchwil i Fynd i’r Afael â Heriau Addysgol
Siaradwyr: Dr Nia Young a Dr Graham French
Rhannwch y dudalen hon
Sut gall ymchwil addysgol eich helpu i fynd i’r afael â her addysgu? Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn eich tywys drwy’r broses o droi her o’ch ymarfer eich hun yn gwestiwn penodol ac yn newid bach y gellir ei brofi.
Byddwch yn archwilio sut i asesu hygrededd a pherthnasedd tystiolaeth ymchwil, cymhwyso canfyddiadau i’ch cyd-destun addysgu, a dylunio ymyriad ymarferol ar raddfa fach. Byddwch hefyd yn cynllunio sut i brofi, gwerthuso a mireinio eich dull gyda myfyrwyr.
Dewch â her addysgu neu ddysgu yr hoffech ei harchwilio. Byddwch yn gadael gyda chwestiwn addysgu wedi’i ddiffinio’n glir a chynllun ymyrryd ymarferol wedi’i lywio gan ymchwil.