Gweithdy DPP CELT: Purposeful Digital Education
Siaradwyr: Mr Tom Graham a Dr Hadia Almahli
Bydd y sesiwn yn archwilio sut i ddewis dulliau digidol sy’n mynd i’r afael â her ddysgu yn hytrach na dim ond ychwanegu rhywbeth newydd.
Rhannwch y dudalen hon
Bydd y sesiwn yn ymdrin â phleidleisiau, cwisiau, mannau cydweithio, amlgyfrwng, dysgu cyfunol, hygyrchedd a defnydd priodol o ddeallusrwydd artiffisial. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ddewis offer sy’n cefnogi dysgu a chyfranogiad, defnyddio gweithgareddau syml heb bwysau asesu i wirio dealltwriaeth a datgelu camsyniadau, a chreu profiadau digidol hygyrch sy’n cynnal pwrpas academaidd a chysylltiadau dynol ystyrlon.
Iaith y sesiwn: Saesneg