Cyfri鈥檙 Cewri
Mae llyfr yr Athro Gareth Roberts wedi cyrraedd siopau llyfrau erbyn hyn!Mae鈥檙 Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn adnabyddus am ei waith diweddar i boblogeiddio mathemateg ac mae ganddo lyfr newydd ar fin ei gyhoeddi.
Mae (Caerdydd, 2020) yn cyflwyno bywyd a gwaith dwsin o fathemategwyr blaenllaw, rhai ohonynt a aned yng Nghymru, ac eraill a gyflawnodd eu gwaith yng Nghymru. Prif neges y llyfr yw bod mathemateg yn rhan annatod o鈥檔 hanes a鈥檔 diwylliant.
Mae鈥檙 gyfrol newydd yn adeiladu ar waith Llewelyn Gwyn Chambers, cyn Ddarllenydd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Bangor, yn ei lyfr arloesol Mathemategwyr Cymru (Caerdydd, 1994) lle manylodd ar hanes 70 a mwy o fathemategwyr Cymru.
Roedd yr Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts yn ddarlithydd mewn mathemateg yn y Coleg Normal ac yn Brifathro鈥檙 Coleg Normal (1994-96). Bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Ysgol Addysg y Brifysgol.
O ddiddordeb arbennig i Brifysgol Bangor, testun un o benodau Cyfri鈥檔 Cewri yw George Hartley Bryan (1864-1928), Pennaeth Adran Mathemateg Bangor dros y cyfnod 1896-1925. Roedd Bryan yn athrylith yn ei faes ac yn awdur Stability in Aviation yn 1911, llyfr a osododd sail technoleg hedfan ac a
George Hartley Bryan (1864-1928)arweiniodd at ddyfarnu iddo fedal aur y Royal Aeronautical Society ac anrhydeddau eraill. Fodd bynnag, nid oedd ymddygiad ecsentrig Bryan yn gymeradwy i awdurdodau鈥檙 coleg ar y pryd. O ganlyniad ni chafodd ei waith y clod dyladwy, fel y dangosodd yr Athro Jim Boyd wrth draddodi Darlith Gyhoeddus Ballard Mathews yn y coleg yn 2011 dan y teitl 鈥楶rophet without Honour鈥.
Roedd Dr Thomas Richards (Doc Tom), Llyfrgellydd y Brifysgol yn ddiweddarach, yn fyfyriwr yn nosbarth Bryan ac yn dyst i鈥檞 ymddygiad. Darlledodd Richards sgwrs radio yn 1953, dan y teitl Doctor Bryan, sy鈥檔 cynnwys ei sylwadau am y darlithydd. Mae鈥檙 bennod am Bryan yn Cyfri鈥檔 Cewri yn dyfynnu o sgript y rhaglen nad yw wedi gweld golau dydd ers blynyddoedd lawer ac yn cymharu ffawd Bryan gydag enwogrwydd Syr John Morris-Jones, cyfoeswr iddo ym Mangor.
Yn 2010 dyfarnwyd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol i鈥檙 Athro Gareth Roberts am ei waith mewn mathemateg. Mae鈥檔 Gymrawd Prifysgol Bangor, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.