Gradd er Anrhydedd yw un o anrhydeddau mwyaf arwyddocaol Prifysgol Bangor. Mae'r Brifysgol yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i unigolion nodedig sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu maes academaidd a/neu gyfraniad penodol a chyson dros gyfnod o amser i fywyd y Brifysgol, yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol. Nid yw'r unigolion sy'n cael eu hanrhydeddu yn seremon茂au graddio'r gaeaf ar 14 a 15 Rhagfyr yn eithriad.
Mae鈥檔 fraint ac anrhydedd cael dyfarnu Gradd er Anrhydedd i unigolion neilltuol sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr ym myd cyhoeddus. Rydym yn croesawu鈥檙 unigolion i鈥檔 Seremon茂au Graddio yn y sicrwydd y byddant yn ysbrydoli ein graddedigion newydd.
Bydd Ieuan Wyn Jones yn derbyn Gradd er Anrhydedd Doethur yn y Gyfraith (LLD) am ei gyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a鈥檙 Gymraeg.
Mae Ieuan Wyn Jones yn gyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Ynys M么n. Penodwyd Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru yn 2007-11, cyn rhoi鈥檙 gorau iddi i ganolbwyntio ar ei waith yn y Cynulliad Cenedlaethol, ochr yn ochr ag arwain Plaid Cymru o 2000-12. Bu Ieuan yn Gyfarwyddwr Gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai Prifysgol Bangor ac fe鈥檌 penodwyd yn Gadeirydd Bwrdd Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf. yn 2013, swydd a ddaliodd am 10 mlynedd.
Mae Trefor Owen i dderbyn Gradd er Anrhydedd Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) am ei gyfraniad at Wasanaeth Cyhoeddus (gan gynnwys Iechyd)
Mae Trefor Owen yn uwch weithiwr proffesiynol mewn coedwigaeth yng Nghymru. Cafodd gymrodoriaeth hynod gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig. Ymhlith ei gyflawniadau nodedig cafodd ei benodi鈥檔 Brif Weithredwr Dros Dro ar Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban, ac yna鈥檔 Gyfarwyddwr Rheoli Tir, lle bu鈥檔 gyfrifol am oruchwylio yst芒d goedwigaeth gyfan llywodraeth yr Alban a鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 gweithlu. Mae Trefor yn frwd dros addysg, profiad myfyrwyr, a chyflogadwyedd, ac mae wedi cynnal cysylltiadau agos 芒'i alma mater, Prifysgol Bangor.
A hithau eisoes wedi ennill BAFTA ac yn adnabyddus yn rhyngwladol fel actor ac awdur ar gyfer y sgrin, bydd Joanna Scanlan yn derbyn Gradd er Anrhydedd Doethur mewn Ll锚n (DLitt) am ei chyfraniad at Adloniant Poblogaidd, a Dysgu trwy鈥檙 Cyfryngau.
Cafodd Joanna Scanlan ei magu yng Ngogledd Cymru, ac mae ei rhieni ill dau鈥檔 gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Bangor. Mae Joanna yn cyfrannu鈥檔 hael i brofiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor drwy rannu ei phrofiadau fel actor ac ysgrifennwr sgrin o fri sy鈥檔 adnabyddus yn rhyngwladol ac yn rhoi sgyrsiau gyrfaol i鈥檙 myfyrwyr.
Yn ogystal ag ennill BAFTA am yr Actores Orau mewn Rhan Flaenllaw yn 2022 a chael ei henwi fel darpar enillydd Oscar at y dyfodol, mae gwaith Joanne mewn cyfresi fel The Thick of It, Getting On, Puppy Love, No Offence, ac yn fwyaf diweddar, Gentleman Jack, Y Golau a The Larkins wedi ei gwneud yn enw adnabyddus ac yn amlygu ei gyrfa lwyddiannus.
Bydd Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn derbyn gradd er anrhydedd Doethur mewn Ll锚n (DLitt) am ei gyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a鈥檙 Gymraeg.
Gwleidydd o Gymro yw Dafydd Wigley, y Barwn Wigley o Gaernarfon. Bu鈥檔 gwasanaethu fel arweinydd Plaid Cymru o 1981-84 ac eto ym 1991-2000. Bu鈥檔 gwasanaethu fel Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaernarfon o 1974 tan 2001 ac fel Aelod Cynulliad dros Gaernarfon o 1999 tan 2003. Yn 2010, rhoddwyd arglwyddiaeth oes i Dafydd gan Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II. Cymerodd ei sedd yn Nh欧鈥檙 Arglwyddi, fel y Barwn Wigley o Gaernarfon, ar 24 Ionawr 2011. Bu Dafydd yn cadeirio Gr诺p Llywio Partneriaeth Llechi Cymru a chwaraeodd ran allweddol wrth sicrhau Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i Dirwedd Mwyngloddio Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn 2021.
Bydd Leah Owen yn derbyn gradd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth (DMus)
am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a鈥檙 Gymraeg.
Mae Leah Owen yn enedigol o Ynys M么n. Bu鈥檔 cystadlu mewn Eisteddfodau yn ifanc iawn, a chafodd lwyddiant mewn nifer o Eisteddfodau Cenedlaethol yn y 1970au. Bu鈥檔 unawdydd lleisiol gwadd ac yn arweinydd sawl c么r, a rhwng 1975-2001 recordiodd sawl albwm unigol i Recordiau Sain.
Ar 么l graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Baglor mewn Cerddoriaeth yn 1974, bu Leah yn dysgu yn Ysgol Hirael, Bangor, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a Chanolfan Iaith Sir Ddinbych. Cafodd Leah ddylanwad mawr ar genedlaethau newydd o gerddorion ac actorion, a bu鈥檔 hyfforddi rhai o s锚r mwyaf Cymru heddiw, gan gynnwys Steffan Rhys Hughes, Mared Williams, Jade Davies, Angharad Rowlands ac Amber Davies ac ysbrydolodd gerddorion di-ri鈥 i ddatblygu a mireinio eu crefft. Gwnaeth Leah gyfraniadau sylweddol i addysg cerddoriaeth a diwylliant yng Nghymru, yn enwedig yn Sir Ddinbych.
Yr unigolion sydd i dderbyn Gradd er Anrhydedd