Unwaith eto, Ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10.30 a 3.00 pm bydd y digwyddiad Bydoedd Cudd hynod boblogaidd yn rhoi cyfle i鈥檙 hen a鈥檙 ifanc gael eu dwylo ar wyddoniaeth. O arlunio botanegol i arddangosfeydd rhyngweithiol gan y Ganolfan BioGyfansoddion a Gardd Fotaneg Treborth, ac o gwis 鈥楶englog Pwy?鈥 i sut i olchi鈥檆h dwylo, bydd rhywbeth at ddant pawb!
Mae鈥檙 holl arddangosfeydd rhyngweithiol, gan gynnwys Amgueddfa Byd Naturiol enwog y Brifysgol, yn rhad ac am ddim, ac yn cael eu cynnal yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol, Bangor. Y cwbl y mae鈥檔 rhaid ei wneud i ganfod mwy am ryfeddodau ymchwil gwyddonol Prifysgol Bangor yw cofrestru ar wefan y digwyddiad.
Yn ogystal 芒 gweithgareddau gwyddoniaeth ymarferol, mae鈥檙 Brifysgol yn cynnal nifer o sgyrsiau difyr.
Ag yntau wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar, bydd Caradog Jones, y Cymro cyntaf i ddringo Everest yn trafod ei brofiadau ar gopa ucha鈥檙 byd, fel rhan o鈥檌 sgwrs 'Contraflow. Where to next' ddydd Mawrth 5 Mawrth am 6.30 pm ym Mhrif Adeilad y Brifysgol. Wedi graddio o鈥檙 Brifysgol gyd gradd mewn Bioleg M么r, mae 鈥楥rag鈥, fel y caiff ei adnabod, wedi rhannu ei yrfa rhwng ei hoff ddiddordebau, sef bioleg m么r a mynydda.
Mae鈥檙 Brifysgol yn falch o gael croesawu Tim Haines yn ei 么l i draddodi darlith gyhoeddus. Graddiodd Tim Haines mewn swoleg, ac mae bellach yn adnabyddus fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, ac yn fwyaf enwog, mae鈥檔 debyg, am y gyfres flaengar ac arloesol Walking with Dinosaurs. Dewch i wrando ar sgwrs Tim 'Making Monsters'am 11.00 am yn Pontio Ddydd Sadwrn 9 Mawrth.
Fel rhan o鈥檙 诺yl hefyd cynhelir digwyddiad cloi Cynhadledd Ymchwilwyr Ifanc Gogledd Cymru (NWYRC). Cyhoeddir enillwyr cystadleuaeth NWYRC yn Pontio am 3.00 pm Ddydd Sadwrn 9 Mawrth, a chaiff gweithgareddau a sesiynau eraill eu cynnal yn Neuadd Penrhyn.
Bydd Darlith Gyhoeddus Awyr Dywyll Eryri, a gynhelir Ddydd Llun 11 Mawrth, hefyd yn rhan o鈥檙 诺yl. Dewch i ddysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri, un o 18 Gwarchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll y byd. Ewch i鈥檙 wefan am fanylion lleoliad.
Mae ysgolion lleol wedi鈥檜 gwahodd i gymryd rhan mewn Diwrnod Eco-wyddoniaeth i Ysgolion yn Pontio Ddydd Gwener 8 Mawrth. Wedi鈥檌 gynllunio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 ac 8, bydd y diwrnod yn cynnwys yr ymchwil eco-wyddoniaeth diweddaraf, sgyrsiau, stondinau rhyngweithiol, arddangosiadau ac arddangosfeydd gan gynnwys Co-Lab, M-SParc, Prosesu Signal Digidol, Roboteg, Technocamps a鈥檙 Sefydliad Dyfodol Niwclear.
Hefyd yn digwydd yn Pontio am 1pm Ddydd Gwener 8 Mawrth bydd 鈥Inspire Inclusion - Women in Science @Bangor鈥. Bydd y Brifysgol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 gan ddefnyddio鈥檙 thema fyd-eang eleni 鈥榊sbrydoli Cynhwysiant鈥 fel cyfle i ddathlu merched yn y gwyddorau o fewn y Brifysgol. Bydd yr Athro Yueng-Djern Lenn a Kodi Edwards o Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion yn rhannu eu meddyliau, eu profiadau a鈥檜 mewnwelediadau am eu taith hyd yma a sut y maent yn ysbrydoli cynhwysiant yn eu meysydd.
Beth am wisgo鈥檆h esgidiau cerdded i gerdded yn 么l troed Charles Darwin ar Daith Gerdded Daeareg i Gwm Idwal Ddydd Sul 17 Mawrth? Bydd yr Athro Colin Jago o GeoMon yn disgrifio nodweddion daearegol y grognant eiconig a sut y cyfrannodd astudiaeth o Gwm Idwal gan wyddonwyr o bwys fel Charles Darwin at ein dealltwriaeth o ddaeareg.
I gloi鈥檙 糯yl, Ddydd Mercher 20 Mawrth, bydd y darlledwr, yr anturiaethwr a鈥檙 Darlithydd er Anrhydedd, Steve Backshall yn dychwelyd i Fangor i gyflwyno sgwrs 'Venom; the science of terrible toxins in nature鈥. Mae鈥檔 rhaid archebu eich lle ar gyfer y ddarlith gan mai鈥檙 disgwyl yw y bydd yn boblogaidd. Mae鈥檔 digwydd am 5.30 pm ym Mhrif Ddarlithfa Pontio.
G诺yl Wyddoniaeth Bangor
Rydym wrth ein boddau鈥檔 agor ein drysau a chroesawu鈥檙 gymuned i鈥檔 G诺yl Wyddoniaeth, sydd wastad yn boblogaidd, ac sy鈥檔 rhan o鈥檔 gweithgareddau i ddathlu ein pen-blwydd yn 140 eleni. Rydym yn gobeithio y bydd pobol o bob oed yn canfod rhywbeth i鈥檞 hysbrydoli ymhlith y gweithgareddau sy鈥檔 cael eu cynnig.
Rydym yn ymrwymedig i rannu ein gwyddoniaeth ac ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr 鈥 ac nid yw byth yn rhy hwyr i ymddiddori, felly rydym yn gobeithio y bydd pobol o bob oed yn ymweld ag o leiaf un o ddigwyddiadau鈥檙 糯yl Wyddoniaeth.