乐播传媒

Fy ngwlad:
Size of Wales Garden

O Chelsea i Fangor: gardd newydd yn agor yn Nhreborth

Mae gardd a enillodd wobr Aur yn Sioe Flodau Chelsea eleni bellach wedi鈥檌 throsglwyddo i Ardd Fotaneg Treborth, Prifysgol Bangor.

 

Cafodd yr ardd groeso mawr yn y sioe, gan ennill Aur a鈥檙 gorau yn y categori 鈥楶lanhigion Gorau鈥, felly mae dod 芒鈥檙 ardd yn 么l i Dreborth yn arbennig iawn. Mae wedi bod yn broses gyffrous i weithio gyda鈥檙 dylunydd gerddi Dan Bristow a鈥檙 t卯m ar ailadeiladu鈥檙 ardd ar dir Treborth, gan ail-greu hanfod yr ardd gyda rhai newidiadau a syniadau newydd i sicrhau ei bod yn ffynnu yn ei chartref newydd yma yng Nghymru.

 

Natalie Chivers,  Curadur, Gardd Fotaneg Treborth

Cydweithiodd Dan Bristow ag elusen newid hinsawdd Cymru Maint Cymru ar yr ardd fioamrywiol, hudolus i ddod 芒 bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol i鈥檙 amlwg, wrth dynnu sylw at ganlyniadau dinistriol datgoedwigo - collwyd ardal o goedwig sy鈥檔 fwy na dwywaith maint Cymru yn 2022. Derbyniodd y prosiect arian gan Project Giving Back, yr elusen grantiau unigryw sy鈥檔 cefnogi gerddi at achosion da yn RHS Chelsea.

Mae鈥檙 ardd yn cynnwys tua 313 o rywogaethau o blanhigion, sy鈥檔 adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed y gellir darganfod mewn dim ond un hectar o goedwig drofannol.

 

Mae Gardd Maint Cymru yn trochi ymwelwyr mewn tirwedd gyfoethog sy鈥檔 cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond mae鈥檔 cynnwys rhywogaethau o blanhigion sy鈥檔 ffynnu yn ein hecosystemau hanfodol ein hunain yma yn y Deyrnas Unedig. Y gobaith yw y bydd hyn yn herio ymwelwyr i gydnabod bod tirweddau ein cartref annwyl ninnau hefyd dan fygythiad.

 

Nicola Pulman,  Cyfarwyddwr Maint Cymru
Mae鈥檙 ardd yn trosglwyddo neges gadwraeth gref, gan godi ymwybyddiaeth am fater hollbwysig datgoedwigo a鈥檌 effaith ar fioamrywiaeth fyd-eang. Nid yn unig y mae鈥檔 addysgu ymwelwyr am ein heffaith ni ar newid hinsawdd, ond mae bod yn gartref i ardd Maint Cymru yn amlygu ymhellach werth Treborth fel gofod i bawb ddysgu am, a chael mynediad i, ardd fydd llawer ddim wedi ei gweld yn y sioe ei hun.
Dan Bristow ,  Studio Bristow