Mewn arbrofion rheoledig yn dynwared amodau cefnforoedd y dyfodol, canfu gwyddonwyr fod ffytoplancton 鈥 organebau microsgopig sy'n gyfrifol am gynhyrchu hanner ocsigen y byd a dal symiau enfawr o garbon 鈥 wedi dioddef colledion sylweddol o ran twf ac amrywiaeth ar 么l dod i gysylltiad 芒 thymereddau uwch a lefelau microblastigion rhagamcanol.
Cafodd diatomau, gr诺p allweddol o ffytoplancton a sefydlynnau carbon pwysig, eu taro'n arbennig o galed.
Nid yw鈥檙 argyfyngau hinsawdd a phlastig yn faterion ar wah芒n 鈥 mae cysylltiadau annatod rhyngddynt. Gyda鈥檌 gilydd, gallent greu amgylchedd gelyniaethus i鈥檙 union organebau sy鈥檔 helpu i sefydlogi hinsawdd ein planed. Os yw ffytoplancton yn dioddef, rydym i gyd yn dioddef.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai'r bygythiad deuol hwn olygu bod cefnforoedd yn gallu atafaelu dros 10 biliwn tunnell yn llai o garbon y flwyddyn 鈥 sef traean o allyriadau tanwydd ffosil blynyddol cyfredol.
Ond mae'r astudiaeth hefyd yn tynnu sylw at obaith ar ffurf Datrysiadau ar Sail Natur.
Pan ychwanegwyd dail morwellt at y gosodiadau arbrofol, roedd ffytoplancton yn llawer gwell.
Mae'n ymddangos bod morwellt yn cipio microblastigion, gan eu hatal rhag niweidio bywyd morol.
Mae hwn yn ysgytwad, ond hefyd yn alwad i weithredu. Mae angen gweithredu byd-eang ar frys i leihau llygredd plastig ac allyriadau carbon 鈥 ond rhaid i ni hefyd fuddsoddi mewn adfer ecosystemau megis dolydd morwellt. Yn ogystal 芒 bod yn brydferth ac yn llawn bywyd morol, maent yn amddiffynwyr hinsawdd rheng flaen. Mae鈥檙 ymchwil yn tynnu sylw at yr angen brys i fynd i鈥檙 afael ag argyfyngau amgylcheddol cydgysylltiedig gyda鈥檔 gilydd 鈥 ac i gydnabod y r么l bwerus y gall natur ei chwarae wrth ymladd yn 么l.
Os hoffech ddysgu am Ddatrysiadau ar Sail Natur, a'r hyn y gallwn ei wneud i wella ein hamgylchedd, mae Prifysgol Bangor yn cynnig ystod o raddau cysylltiedig.