ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
A picture of the Main Arts building at ÀÖ²¥´«Ã½

Bangoriad Bach: Medi 2026

E-Newyddlen i gyn-fyfyrwyr

Os nad ydych yn derbyn ein e-newyddlen misol ond hoffech ei dderbyn drwy e-bost, cwblhewch ein ffurflen diweddaru i ni gael eich adio i'n rhestr bostio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech ei weld yn y rhifynnau yn y dyfodol, cysylltwch a ni yn alumni@bangor.ac.uk

Mwy o newyddion o'r brifysgol

Neges gan Bennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

Croeso i rifyn mis Medi 2026 o'r Bangoriad Bach a chroeso arbennig i raddedigion 2026 sydd yn derbyn ein e-newyddlen am y tro cyntaf fel cyn-fyfyrwyr! 

Mae paratoadau ar y gweill i groesawu ein myfyrwyr newydd a'r myfyrwyr sy'n dychwelyd ar ddiwedd y mis. Mae'n siŵr eich bod yn cofio'r cyffro a'r pryder o gyrraedd y campws, ymgartrefu yn eich llety a mynd i’ch darlithoedd cyntaf yn y brifysgol. Dymunwn y gorau i'r garfan newydd yn eu hantur newydd a'r garreg filltir gofiadwy hon yn eu bywydau.

Yn y rhifyn hwn o’r Bangoriad Bach, rydym yn dod â newyddion i chi am ddau aelod staff newydd (efallai y byddwch yn adnabod un ohonynt…), hynt ein graddedigion a sut mae ein hymchwilwyr yn mynd i'r afael â newidiadau yn yr hinsawdd a'u heffeithiau.

Fel bob amser, cysylltwch â ni yn alumni@bangor.ac.uk os oes gennych unrhyw straeon i'w rhannu neu gwestiynau i'r tîm.

Dymuniadau gorau,

Emma Marshall

Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL

Steve Backshall with thumbs up in front of a lecture theatre full of students

Penodi Steve Backshall yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor

Mae Steve Backshall MBE, y cyflwynydd teledu, naturiaethwr a fforiwr, wedi ei benodi'n Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, gan gydnabod ei gyfraniad eithriadol at y brifysgol a'i myfyrwyr.

Mae’r cyflwynydd, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, yn fwyaf adnabyddus am y rhaglenni Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live. Ymunodd â thîm dysgu Prifysgol Bangor yn 2020 ac ers hynny mae wedi bod yn ymwelydd rheolaidd â'r brifysgol.

Bydd penodiad Steve Backshall yn Athro er Anrhydedd yn parhau ei berthynas hirhoedlog â Phrifysgol Bangor a’r Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, gan gefnogi addysgu, ymchwil, ymgysylltu â'r cyhoedd a chyfleoedd i fyfyrwyr.

Darganfod mwy

Deon newydd Ysgol Fusnes Albert Gubay

Mae Prifysgol Bangor yn falch o groesawu'r Athro Andrew Thomas fel Deon newydd yr Ysgol Fusnes Albert Gubay.

Mae Andrew Thomas yn Athro Rheolaeth Peirianneg ac yn ymuno â’r Brifysgol o’i rôl fel Deon Ysgol Reolaeth Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe.

Mentrodd Andrew i’r byd academaidd ar ôl dilyn gyrfa ddiwydiannol yn y diwydiant awyrofod. Mae ei brif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys; peirianneg fforensig, rheoli cadwyn gyflenwi, rheoli projectau, strategaeth weithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Mae wedi cyhoeddi dros 250 o erthyglau ymchwil a phapurau mewn cyfnodolion, ac wedi traddodi sawl prif anerchiad yn y meysydd hyn yn ogystal â sicrhau dros £12 miliwn mewn cyllid ymchwil a masnachol, ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda phartneriaid llywodraeth, diwydiant ac academaidd.

Mae ei ymchwil yn parhau i ganolbwyntio ar wella perfformiad sefydliadol, cynhyrchiant, cynaliadwyedd ac arloesedd, gan gefnogi prifysgolion i gyflawni effaith economaidd a chymdeithasol ystyrlon.

Rydym yn edrych ymlaen at arweinyddiaeth Andrew o’r Ysgol Fusnes Albert Gubay.

Professor Andrew Thomas
Darlith Goffa Jack Darbyshire Memorial Lecture

Darlith Goffa Jack Darbyshire

Roedd nifer wych yn bresennol ar gyfer Darlith Coffa Jack Darbyshire gyntaf yr wythnos hon, lle trafododd Yr Athro Iestyn Woolway o Ysgol Gwyddorau Eigion dyfodol dyfroedd mewnol a rhannodd mewnwelediadau am ei astudiaethau ar newid amgylcheddol byd-eang.

Siaradodd cyn-fyfyriwr a Chymrawd er Anrhydeddus Prifysgol Bangor Yr Athro Ed Hill, (MSc Eigioneg Ffisegol, 1983 a PhD Eigioneg Ffisegol, 1987) hefyd i rannu rhai o’i atgofion o’i amser yma fel myfyriwr o dan gyfarwyddyd Yr Athro Jack Darbyshire - Athro cyntaf Eigioneg Ffisegol Bangor.

Ymweliad Bangoriaid Llundain â Marble Hill House

Mae grŵp Bangoriaid Llundain yn cynnig rhwydwaith cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr yn Llundain a de ddwyrain Lloegr i gynnal cysylltiadau â graddedigion Prifysgol Bangor eraill. Mae nhw’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i ymweld â thirnodau Llundain, dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru yn Llundain, cynnal cysylltiadau â Phrifysgol Bangor a rhwydweithio â grwpiau cyn-fyfyrwyr prifysgolion eraill Cymru.

Bydd cyfarfod nesaf Bangoriaid Llundain yn Twickenham ar ddydd Sadwrn, 17 Hydref, i weld Tŷ Marble Hill ac Oriel Tŷ Orleans. Mae'r oriel yn dangos cymysgedd o baentiau, darluniau, ffotograffau a gwrthrychau, ac mae'r tŷ yn rhoi'r cyfle i ymwelwyr trochi eu hunain i fewn i fywyd Sioraidd a darganfod mwy am Henrietta Howard, cariad George II. Ac, wrth gwrs, bydd yr ymweliad hefyd yn gyfle i gwrdd â chyd-gyn-fyfyrwyr Bangor! Os hoffech fynychu, e-bostiwch James Tute ar londonbangorians@gmail.com

Myfyrwyr ar lwyfan / Students on a stage

Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr Coedwigaeth

Gyda chymorth gan roddion gan gyn-fyfyrwyr i Gronfa Bangor, cymerodd myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Coedwigaeth, Rheoli Coetiroedd ac Amaethgoedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor le amlwg yng Nghynhadledd Genedlaethol Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (ICF) ym mis Mai, gan gyfrannu at ddwy sesiwn banel am ddyfodol y proffesiwn.

Wedi'i chynnal yn International Convention Centre Wales yng Nghasnewydd, daeth y gynhadledd â gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr ac arweinwyr sy'n dod i'r amlwg ynghyd i archwilio ymateb coedwigaeth i heriau amgylcheddol a chymdeithasol. Cynigiodd y myfyrwyr safbwynt meddylgar, gan siarad yn onest am y math o goedwigwyr a rheolwyr coetiroedd y maent yn anelu at fod.

Darganfod mwy

Myfyriwr PhD Ysgol y Gymraeg wedi ei chefnogi gan Fwrsariaeth Teithio Ryngwladol Wartski

Gyda chefnogaeth gan Fwrsariaeth Teithio Ryngwladol Wartski, teithiodd Claire Lober (PhD Astudiaethau Celtaidd) i Nova Scotia, Canada, i gyflwyno ei hymchwil yng nghynhadledd 2026 y Celtic Studies Association of North America (CSANA). Galluogodd y fwrsariaeth iddi rannu ei gwaith gydag ysgolheigion blaenllaw ym maes llenyddiaeth ganoloesol Cymru ac ymgysylltu â'r datblygiadau diweddaraf ar draws maes ehangach Astudiaethau Celtaidd. Galluogodd y gynhadledd Claire i feithrin cysylltiadau rhyngwladol ac astudio safbwyntiau newydd ar ieithoedd lleiafrifol ac ysgolheictod Celtaidd.

Darganfod mwy 

Claire Lober
Myfyrwyr yn sgwrsio ar y grisiau tu allan i Pontio

Diwrnod Agored Prifysgol Bangor

Os oes gennych chi neu rywun yn eich bywyd ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Cynhelir y Diwrnod Agored nesaf ar Ddydd Sul, 11 Hydref. Yn ystod y dydd bydd cyfle i chi dysgu mwy am ein pynciau, gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol, gweld y llety i fyfyrwyr a mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cliciwch yma.

Mae graddedigion Prifysgol Bangor yn curo'r duedd genedlaethol o ran dod o hyd i waith

Roedd mwy na 93% o raddedigion Prifysgol Bangor mewn cyflogaeth neu’n dilyn astudiaethau pellach pan gawsant eu holi 15 mis ar ôl cwblhau eu rhaglenni gradd, yn ôl yr Arolwg Hynt Graddedigion diweddaraf, gan berfformio'n well na chyfartaledd Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Mae'r canfyddiadau'n adlewyrchu ffocws Prifysgol Bangor ar roi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol a'r profiadau i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i bontio’n llwyddiannus i gyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Darganfod mwy

Logo Arolwg Hynt Graddedigion
Aerial view of picturesque river valley between patchwork landscape with pastures, agricultural crops and rural homes.
Aerial view of picturesque river valley between patchwork landscape with pastures, agricultural crops and rural homes.
Credit:Schroptschop

Nifer y tonnau gwres afonydd sy'n digwydd yr un pryd ag achosion o wres eithafol yn yr atmosffer wedi treblu ers y 1980au

Mae ymchwil gan dîm byd-eang o wyddonwyr wedi datgelu bod nifer y tonnau gwres mewn afonydd sy’n digwydd yr un pryd ag achosion o wres eithafol yn yr atmosffer wedi treblu ers y 1980au.

Mae’r ymchwilwyr, gan gynnwys yr Athro Iestyn Woolway, Cymrawd Ymchwil Annibynnol NERC ym Mhrifysgol Bangor, wedi cyhoeddi papur sy'n ymchwilio i’r "tonnau gwres cyfansawdd" hyn yn .

Darganfod mwy

Astudiaeth yn datgelu sut mae torri nerf yn y llaw yn newid yr ymennydd dynol

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi gwneud canfyddiad newydd ynglÅ·n â sut mae atgyweirio nerf sydd wedi torri yn y llaw yn arwain at newidiadau swyddogaethol yr ymennydd dynol. 

Gallai'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn , yn y pen draw helpu ymchwilwyr i ddeall pam mae adferiad o anafiadau difrifol i'r nerfau yn aml yn anghyflawn, a sut y gallai newidiadau yn yr ymennydd ryngweithio ag adferiad.

Darganfod mwy

Llun o law a darluniad o'r ymennydd dynol
Llun o law a darluniad o'r ymennydd dynol
Credit:Prifysgol Bangor
Dau wyddonwr yn gwisgo cotiau gwyn yn edrych ar samplau dŵr
Gwyddonwyr yn edrych ar samplau o ddŵr gwastraff mewn labordy

Bangor yn lansio menter fyd-eang i ddefnyddio dŵr gwastraff fel system rhybyddio cynnar ar gyfer pandemigau yn y dyfodol

Ar 24 Awst, lansiodd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor Diwrnod Dŵr Gwastraff Byd-eang, menter ryngwladol arloesol i ddefnyddio dŵr gwastraff fel system rhybuddio cynnar ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.

Mae'r lansiad yn nodi dechrau ymdrech uchelgeisiol gan yr Athro Davey Jones a'i dîm, i drawsnewid dŵr gwastraff o sgil-gynnyrch sy'n cael ei anwybyddu i fod yn un o gyfryngau mwyaf pwerus y byd i ddeall iechyd y cyhoedd, newid amgylcheddol a risgiau byd-eang newydd.

Darganfod mwy

Athro yn galw am 'lain wlyb' i amddifyn Prydain rhag llifogydd

Yr Athro Christian Dunn
Grass fire across peatland in the Bannau Brycheiniog National Park.
Grass fire across peatland in the Bannau Brycheiniog National Park.

Mae haf 2026 wedi dod ag un o dymhorau tanau gwyllt mwyaf difrifol y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'i ddwysáu gan wres eithafol ac amodau eithriadol o sych. Cofnodwyd mwy na 500 o danau ledled y wlad ym mis Gorffennaf yn unig, gan effeithio ar dir amaethyddol a gweundiroedd, rhostiroedd, a glaswelltiroedd ucheldir, tirweddau sy'n storio carbon, yn rheoleiddio dŵr, yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynnal rhai o fioamrywiaeth fwyaf gwerthfawr y Deyrnas Unedig.

Er bod y difrod gweladwy a achosir gan danau gwyllt yn glir, mae'r effeithiau ar iechyd y pridd yn llawer anoddach i'w gweld.

Darganfod mwy

Gwyddonwyr Bangor yn brysio i fesur difrod tanau gwyllt i briddoedd y DU

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn lansio ymgyrch wyddonol frys i fesur y niwed cudd a achoswyd gan danau gwyllt yr haf hwn i briddoedd, bioamrywiaeth a'r gwasanaethau ecosystemau’r Deyrnas Unedig, tra bod modd mesur rhai o'r effeithiau cliriaf o hyd.