Arbenigwyr blaenllaw yn rhannuâr ymchwil ddiweddaraf i Ymwybyddiaeth Ofalgar
Yr wythnos hon, bydd ymchwilwyr penigamp i ymwybyddiaeth ofalgar yn dod ynghyd i gyflwyno ac ystyried ymchwil arloesol yn y maes newydd hwn.
Wediâi drefnu gan arbenigwyr yn Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar o fewn Prifysgol Bangor, bydd y digwyddiad yn trafod sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddod â buddion i unigolion ac i gymdeithas.
Profwyd eisoes fod ymwybyddiaeth ofalgar yn lleihau iselder mynych, gan gynnig gobaith gwirioneddol iâr miliynau o bobl yn y DU syân dioddef gan iselder.
Meddai Dr Rebecca Crane o Brifysgol Bangor: âAmcangyfrifir bod iselder a phryder yn costio ÂŁ17 biliwn, neu 1.5% oâr Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, i economiâr DU. Mae targedu gwariant cyhoeddus ar raglenni a all wella bywydau pobl yn bwysig ohonoâi hun, ac ââr posibilrwydd o arbed costau trwy leihauâr gofynion ar wasanaethau cyhoeddus.â
âMae rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn cael eu cyflwyno i helpu pobl syân profi amrywiaeth o sefyllfaoedd heriol, megis byw gyda phoen neu gyflwr corfforol tymor-hir, neu ymdopi â chaethiwed i sylweddau. Datblygwyd rhaglenni ac ymchwilio iddynt, iâw defnyddio mewn ysgolion, gweithleoedd, ar gyfer pobl â chanser ac yn ystod beichiogrwydd.â
Maeâr ymchwil ddiweddaraf a gyflwynir yn cynnwys canfyddiadau o astudiaethau a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor syân dangos fel y gall hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar esgor ar newidiadau buddiol yng ngweithrediad ymenyddol disgyblion cynradd a myfyrwyr chweched dosbarth, fel ei gilydd. Wrth grynhoi rhai oâr canlyniadau, medd Dr Dusana Dorjee, âYn Ă´l ein canfyddiadau cychwynnol, os cymharwn ni blant a hyfforddwyd mewn ymwybyddiaeth ofalgar â rhai na chawsant yr hyfforddiant, gwelwn wahaniaeth yn y modd y maent yn sylwi ar bethau cadarnhaol oâu cwmpas ac yn eu gallu i ymdopi.â
Ychwanegodd Dr Rebecca Crane, âMae bywyd modern yn rhuthro ymlaen a phobl dan lawer o bwysau. Ar lefel cymdeithas, maeân hollbwysig ein bod yn rhoi sgiliau i bobl fel y gallant reoli eu meddyliau eu hunain yn fedrus a bod ganddynt y grym i wneud hynny.â
Dal megis dechrau y mae ymchwil i ymwybyddiaeth ofalgar a rhaglenni seiliedig ar hynny, ond maeâr maes yn cynnig addewid rhyfeddol ar gyfer maes newydd sbon o ymholiad. Mewn dadansoddiad diweddar o 209 o astudiaethau ar ymwybyddiaeth ofalgar a oedd wediâu hadolygu gan gydweithwyr gyda chyfanswm o 12,145 o gyfranogwyr, casglwyd bod ymyriadau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar yn dangos effeithiau eang ac arwyddocaol wrth drin pryder ac iselder, a bod y cynnydd wediâi gynnal mewn asesiadau dilynol.
Y ffordd orau i ddisgrifio ymwybyddiaeth ofalgar yw fel amrediad o raglenni hyfforddi cymhwysol mewn myfyrdod syân anelu at adeiladu medrau rhoi sylw a hunan-reoli, ac maeân rhan o ddull cyffredinol o adeiladu adnoddau personol unigolion, yn ogystal ââu hiechyd corfforol a meddyliol.
Fel y dywedodd yr Athro Willem Kuyken o Brifysgol Rhydychen, âRydym eisoes wedi profi buddion ymwybyddiaeth ofalgar yng nghyswllt iselder mynych. Mae ymchwil bresennol i ymwybyddiaeth ofalgar yn rhoi sylw i feysydd eraill o ddiddordeb yn y gymdeithas sydd ohoni, yn cynnwys cyflyrau iechyd corfforol tymor-hir, gwytnwch ymysg plant a phobl ifanc, ac ysgolion a gweithleoedd iach. Yn ystod yr 50 mlynedd nesaf, bydd gwyddoniaeth o ansawdd uchel yn ateb cwestiynau sylfaenol ynglšn ag ymwybyddiaeth ofalgar aâi swyddogaeth bosibl yn y gymdeithas sydd ohoni.â
Gan egluro ymwybyddiaeth ofalgar ymhellach, meddaiâr Athro Mark Williams o Rydychen,
âUn ffordd o ddeall ymwybyddiaeth ofalgar yw meddwl am ei wrthwyneb, sef ââdiffyg ymwybyddiaethâ â yr adegau hynny nad ydym yn wirioneddol ymwybodol oâr hyn a welwn o un eiliad iâr nesaf. Rydym i gyd yn ddifeddwl neu ar awtobeilot weithiau, ond i lawr ohonom, mae hyn yn gyflwr cyson. Mae hyn yn golygu nad yw bywyd mor foddhaus ag y gallai fod ac, yn achos y rheiny syân dueddol o gael problemau emosiynol, gall hel meddyliau a phryderu feddiannuâr meddwl mewn modd niweidiol. Mae modd datblyguâr gallu i fod yn ofalgar ymwybodol. Mae hyn yn rhyddhauâr meddwl o batrymau arferol, synfyfyriol syân arwain at boendod, iselder a chwythu plwc, ac yn galluogi rhywun i wynebu sialensiau newydd mewn modd mwy greddfol a chreadigol.â
Trefnir y Gynhadledd gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Chanolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caer-wysg, Project Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion a Breathworks, ac maeân darparu fforwm ar gyfer gosod ein hymchwil bresennol ac yn trafod sut y gall ymwybyddiaeth ofalgar ddatblygu er budd cymdeithas yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2015