Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant
Graham Allen
Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydluâr Early Intervention Foundation, yn traddodi darlith dan y teitl âEarly Intervention - why leave it so late?â nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfaâr Celfyddydau), Prifysgol Bangor. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol Bangor. Maeân ddarlith gyhoeddus syân rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Bu Graham Allen yn Aelod Seneddol am 30 o flynyddoedd rhwng 1987-2017 dros etholaeth hynod ddifreintiedig Nottingham North, lleâi ganed.
Meddaiâr Athro Judy Hutchings o Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth Ysgol Seicoleg y Brifysgol:
âRydym yn ffodus iawn o gael Graham i siarad ar drothwy ein Cynhadledd Flynyddol am ei arddeliad dros ymyriad cynnar aâr heriau rydym yn eu hwynebu wrth sicrhau cydraddoldeb cyfle iân holl blant. Ef oedd y llais mwyaf dylanwadol dros ymyriad cynnar i blant difreintiedig yn gymdeithasol dros lawer oâi gyfnod yn y Senedd. Roedd yn Aelod Seneddol gweithgar dros ei etholaeth a thros ymyriad cynnar i roi cefnogaeth i deuluoedd, a throdd hynnyân brif thema ei ymgyrchu ymroddedig, a chyfrannodd yn hael oâi amser i hyrwyddo ymyriad cynnar yn genedlaethol.â
Fel yr esbonia Graham Allen:
âCafodd ymyriad cynnar ei ddatblygu fel syniad ym maes babanod, plant a phobl ifancâŚ. Mae ymyriad cynnar yn cynnwys amrediad o bolisĂŻauân ymdrin ââr cylch oedran o 0 at 18. Bwriad y polisĂŻau hyn yw torriâr continwwm o amddifadedd, tan-gyrhaeddiad a thlodi dyhead o un genhedlaeth iâr llall. Sylfaen y dull yw hybu medrau cymdeithasol ac emosiynol ymysg babanod, plant a phobl ifanc. Dim ond gydaâr sylfaen gadarn hon y byddant yn mynd ymlaen i ddatblygu ymhellach ar eu sgiliau ieithyddol aâu cyrhaeddiad academaidd ac yn meithrin y gallu i fagu teuluoedd gwych eu hunain.â
Daeth Graham yn Gadeirydd Gweithredol Partneriaeth Strategaeth Leol Nottingham yn 2005 a lansio One Nottingham, âDinas Ymyriad Cynnarâ gyntaf Prydain. Yn 2007 ysgrifennodd, gydag Iain Duncan-Smith, âEarly Intervention: good parents, great kids, better citizensâ, a fuân hynod ddylanwadol ac a danlinellai ei arddeliad dros gyflawni pethau drwy weithioân drawsbleidiol.
Ym Mehefin 2010, mewn ymateb i gais gan y Prif Weinidog, David Cameron, cynhaliodd Adolygiad Annibynnol o Ymyriad Cynnar i Lywodraeth ei Mawrhydi, gan lunio dau adroddiad dylanwadol, âEarly Intervention: the next stepsâ (Ionawr 2011) ac âEarly Intervention: Smart Investment, Massive Savingsâ, (Gorffennaf 2011). Cyfrannodd yr Athro Hutchings iâr adroddiadau hyn a rhoddwyd cydnabyddiaeth i waith ymyriad cynnar Prifysgol Bangor.
Arweiniodd yr adroddiadau at sefydlu ac ariannuâr Early Intervention Foundation fel corff cenedlaethol a lansiwyd yn Chwefror 2013 gyda Graham Allen yn gadeirydd arno.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018