Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd 2012
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2012. Cyflwynir yr holl Gymrodoriaethau yn ystod y SeremonĂŻau Graddio rhwng 14 a 20 Gorffennaf.
âMae gan Brifysgol Bangor draddodiad maith o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o bob math o wahanol feysydd. Dydi eleni ddim yn eithriad ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd. Bydd ein Cymrodyr yn ychwanegu cryn fri a lliw iâr seremonĂŻau pryd rydym hefyd yn cydnabod cyraeddiadau ein myfyrwyr,â meddai Cofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts.
Enwau Cymrodyr er Anrhydedd eleni yw:
Yr Athro Malcolm David Evans OBEYr Athro Malcolm David Evans OBE â Athro Cyfraith Ryngwladol, Prifysgol Bryste [am wasanaethau iâr Gyfraith]
Yr Athro Steve Jones - Athro Geneteg, University College London (UCL), awdur arobryn ym maes y gwyddorau a darlledwr [am wasanaethau i Wyddoniaeth]
Terence David Hands CBE â Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru; buân rhedeg y Royal Shakespeare Company am 20 mlynedd [am wasanaethau iâr theatr]
Bleddyn Wynn-Jones â casglwr a meithrinwr planhigion, Gerddi Fferm Crug [am wasanaethau i Lysieueg a Garddwriaeth]
Yr Athro Tony Jones CBE, FRCA â adnabyddus yn rhyngwladol ym maes gweinydduâr celfyddydau; dyn o FĂ´n
Terence David Hands CBEsyân Ganghellor y School of Art Institute of Chicago [am wasanaethau iâr Celfyddydau]
John Gibb Marshall (a adwaenir hefyd fel John Sessions) â actor ac awdur, ac un o raddedigion Bangor, wedi cael gyrfa actio nodedig â yn fwyaf diweddar buân actio Edward Heath yn y ffilm The Iron Lady [am wasanaethau i ddrama]
Yr Athro Catherine McKenna â Athro Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd, Prifysgol Harvard [am wasanaethau i astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd]Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones â cyn AS Alun a Glannau Dyfrdwy, a gweinidog yn y llywodraeth, ac un o raddedigion y Coleg Normal [am wasanaethau i fywyd cyhoeddus yng Nghymru]
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones â cyn AS Alun a Glannau Dyfrdwy, a gweinidog yn y llywodraeth, ac un o raddedigion y Coleg Normal [am wasanaethau i fywyd cyhoeddus yng Nghymru]
John SessionsMeddaiâr actor John Sessions: âDwi erioed wedi anghofio fy nyddiau ym Mangor ac maeâr ffaith nad ydi Bangor wedi fy anghofio i wedi fy nghyffwrdd yn fawr iawn. Bendith Duw ar fy alma mater!â
Meddai Terry Hands, Cyfarwyddwr Theatr Clwyd: âRwyf wrth fy modd i gael fy anrhydeddu yn y modd hwn ac yn edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau cryfach fyth efoâr Brifysgol wych yma.â
Meddai Bleddyn Wynn-Jones o Blanhigion Fferm CrĂťg: âRoedd yn bleser annisgwyl iawn cael cynnig Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor. Fel llawer oâr planhigion gwyllt rydym wediâu darganfod o gwmpas y byd, maeân fraint fawr cael bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Ond rwyân teimloân wylaidd iawn hefyd gydaâr anrhydedd yma sydd wedi cael ei roi i mi gan fy nghyfoedion, a hynny am ymwneud â phwnc sy'n fy nghyffroi a bywiogi fy mywyd, gan roi cyfle i mi'r un pryd gyfrannu at wybodaeth dynoliaeth."
Yn enedigol o Gymru, Malcolm Evans yw un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig Prydain â mae ei lyfr pwysig ar gyfraith ryngwladol yn ei drydydd argraffiad erbyn hyn. Aelod o GrĹľp Ymgynghorol yr Ysgrifennydd Tramor ar Hawliau Dynol; Cadeirydd is-bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar atal poenydio; derbyniodd OBE yn 2004 am wasanaeth i atal poenydio a hyrwyddo rhyddid crefyddol.
Yn Athro Geneteg er 1992,mae Steve Jones wedi bod yn University College London er 1978. Colofnydd iâr Daily Telegraph er 1992; Enillydd Medal Faraday y Gymdeithas Frenhinol, Medal Charter yr Institute of Biology a Medal Trichanmlwyddiant y Linnean Society. Awdur nifer o lyfrau, yn cynnwys The Cambridge Encyclopaedia of Human Evolution (1992), ac enillodd ei lyfr The Language of the Genes wobr Llyfr Gwyddonol y Flwyddyn yn 1994. Ar hyn o bryd maeân Llywydd yr Association for Science Education.
Mae Terry Hands yn un oâr ffigurau amlycaf yn y theatr Saesneg, ac wedi bod gyda Clwyd Theatr Cymru er 1997. Cyn Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company1986-91. Hefyd sefydlydd a Chyfarwyddwr Artistig y Liverpool Everyman Theatre. Mae wedi ennill llawer o wobrau am ei waith fel Cyfarwyddwr â yn cynnwys y London Drama Critics Award â ac mae wedi cyfarwyddo cynyrchiadau iâr Chichester Festival, The Royal Opera, The Royal National Theatre a sefydliadau rhyngwladol.
Dechreuodd Bleddyn Wynn Jones gasglu planhigion ar daith i Fietnam yn 1991 ac ers hynny mae wedi bod yn ymweld yn rheolaidd â gwledydd y ne ddwyrain Asia a De America. Feâi hystyrir yn rhyngwladol yn gasglwr a meithrinwr planhigion o bwys, ac mae planhigion a dyfir yn ei Gerddi Fferm Crug ger Bangor yn cael eu gwerthuân fyd-eang. Derbyniodd Wobr Sir Brynner Jones gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1997, ac mae wedi ennill llawer o fedalau aur gan The Royal Horticultural Society; enillodd Wobr y Llywydd am yr arddangosfa orau yn y Pafiliwn Mawrth yn Sioe Flodau Chelsea yn 2011.
Fe wnaeth Yr Athro Tony Jones dyfu i fyny ar Ynys MĂ´n (Mynydd Bodafon) lle mae ganddo deulu o hyd. Buân Llywydd y School of Art, Institute of Chicago 1986-92 a 1996-2008 â ond gwasanaethodd hefyd fel Rheithor y Royal College of Art o 1992-96; cyn hynnyân buân Gyfarwyddwr y Glasgow School of Art. Adnabyddus fel darlledwr ac awdur yn ogystal ag fel gweinyddwr y celfyddydau. Enillydd Medal Newbery Prifysgol Glasgow a Gwobr yr US National Council of Art i Weinyddwyr.
Mae John Sessions (John Gibb Marshall) wedi cael gyrfa actio nodedig iawn ar lwyfan a sgrin, gan arbenigol mewn actio rhannau difrifol a hiwmor byrfyfyr. Mae ei berfformiadauân cynnwys Die Fledermaus, Henry V a The Merchant of Venice, yn ogystal â Spitting Image, Midsomer Murders, Judge John Deed, Dalziel and Pascoe a Dr Who ymysg llawer iawn o berfformiadau. Graddiodd o Fangor yn y 1970au.
Mae Catherine McKenna wedi bod yn dysgu yn Harvard er 2005, a chyn hynny bu yn New York University aâr City University of New York. Maeân ysgolhaig adnabyddus ym maes rhyddiaith naratif a barddoniaeth ganoloesol Gymraeg. Mae ganddi gysylltiadau academaidd agos â Bangor, ac mae ei Chymrodoriaeth er Anrhydedd yn cadarnhauâr âberthynas arbennigâ sydd rhwng ei hadran yn Harvard ac Ysgol y Gymraeg ym Mangor.
Yn ychwanegol at ei yrfa wleidyddol â pryd y buân Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Denis Healey a Gweinidog yn y Swyddfa Gymreig yn 1974-79 - maeâr Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones wedi bod yn Llywydd Ysbyty Glannau Dyfrdwy a Llywydd Cymdeithas Alzheimer, a hefyd yn aelod o gyrff llywodraethu Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012