Àֲ¥´«ý

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod Bangor a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Dr Gareth Evans-Jones

Darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd

g.evans-jones@bangor.ac.uk

–

Dr Gareth Evans-Jones

Rhagolwg

Cyflwyniad

Yn enedigol o Ynys Môn, deuthum i Brifysgol Bangor yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblheais MA mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd â phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, dan nawdd yr AHRC. Yn dilyn hynny, fe’m penodwyd yn Ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd.

Ymchwil Academaidd

Roedd fy ymchwil doethurol yn archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i fater caethwasiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil ar ffurf monograff yn 2022: ‘Mae’r Beibl o’n tu’: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru).

Fel y dengys testun fy PhD, mae fy niddordebau academaidd yn eang ac yn rhyngddisgyblaethol, ac yn cynnwys: astudiaethau Beiblaidd; derbyniad y Beibl mewn hanes a’i rôl mewn materion cyfoes; crefydd, llenyddiaeth a chymdeithas; hanes caethwasiaeth a moeseg; Iddewiaeth a Christnogaeth, a’u deialog ryng-grefyddol; Siciaeth a Chonffiwsiaeth; Ecoleg a Chrefydd; Athroniaeth Hynafol; Problem Drygioni; Anghydffurfiaeth Gymreig a’r Cymry yn America; diwylliant print y bedwaredd ganrif ar bymtheg; a rôl crefydd yn cynnal hunaniaeth ethnig a chenedlaetholgar mewn cymunedau gwasgaredig.

Rydw i'n parhau i archwilio caethwasiaeth a chrefydd, ac yn ymchwilio i agweddau penodol ar Seioniaeth fodern ar hyn o bryd.

O’r herwydd, mae’r modiwlau rydw i’n eu haddysgu’n amrywiol ac yn cynnwys moeseg, Iddewiaeth a Christnogaeth, a rôl crefydd mewn materion ecolegol cyfoes.

Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru

Ym mis Hydref 2022, fe'm penodwyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru gyda Dr Joshua Andrews. Bwriad y Ganolfan ydi gofalu bod Addysg Grefyddol, Moeseg, Athroniaeth a Gwerthoedd fel meysydd pwnc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru yn cael eu diogelu. Byddem yn cydweithio ag athrawon, grwpiau CYSAG, mudiad RE Hubs UK, a mudiadau ffydd er mwyn datblygu'r addysg sy'n bod a dangos perthnasedd y pwnc eithriadol bwysig ac amserol yma i'n cymdeithas amlgrefyddol, amlddiwylliannol ac amlsyniadaethol.

Gwaith Creadigol

Rydw i hefyd yn ysgrifennu’n greadigol ac ym mis Hydref 2018,Ìýcyhoeddais nofel yn darlunio profiadau’r Iddewon yn ystod yr Holocost, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn). Cafodd Eira Llwyd ei enwi'n Llyfr y Mis ar gyfer mis Tachwedd 2018 gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn 2023, cyhoeddir nofel gennyf, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn), sy’n archwilio’r modd y darlunnir gwrachod yn ein cymdeithas heddiw.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, bûm yn hynod ffodus o ennill y Fedal Ddrama am fy nramaÌýAdar Papur, a chynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2020; ac yn Eisteddfod Genedlaethol AmGen 2021, deuthum yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama am fy nrama,ÌýCadi Ffan a Jan, a oedd yn archwilio ystrydebau gender yn y Gymru gyfoes.Ìý

Yng ngwanwyn 2022, aeth drama roeddwn wedi’i sgriptio,ÌýYnys AlysÌý(Cwmni'r Frân Wen), ar daith o amgylch Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddwyd cyfrol a olygais, sef y flodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg gyntaf sy'n cynnwys gwaith gonest a grymus 42 llenor gwahanol: CuriadauÌý(Barddas).

Yn 2025, dyfarnwyd gwobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg i fy nghyfrol gyntaf i blant,ÌýLlanddafad (Y Lolfa, 2024).

Gwybodaeth Cyswllt

Swydd:ÌýÌý Darlithydd

Ebost:ÌýÌý Ìý g.evans-jones@bangor.ac.uk

Lleoliad:ÌýM11a, Prif Adeilad y Celfyddydau

Addysgu ac Arolygiaeth

  • Moeseg: Agweddau Crefyddol
  • Cyflwyniad i Gristnogaeth
  • Cyflwyniad i Athroniaeth Hynafol
  • Gwrth-Semitiaeth
  • Natur a Chrefydd y Gorllewin
  • Crefydd, Cenedligrwydd a Rhywioldeb
  • Yr Holocost: Ymatebion Crefyddol ac Athronyddol
  • Crefydd yng Nghymru: O Baganiaeth i Jediiaeth
  • Iddewiaeth yn y Byd Modern
  • Problem Drygioni
  • Y Gaethfasnach Drawsatlantig
  • Athroniaeth Crefydd yn yr 20fed Ganrif
  • Myth a Moeseg
  • Astudiaeth Annibynnol
  • Traethawd Hir

Cyfarwyddo MA/MRes

  • Yn cyfarwyddo prosiectau MRes ym meysydd astudiaethau crefyddol ac athroniaeth.

Cyfarwyddo PhD

  • Yn cyfarwyddo prosiectau'n cynnwys rhai am Heraclitus, a llenyddiaeth ffantasi.
  • Yn fodlon cyfarwyddo prosiectau PhD ym meysydd astudiaethau crefyddol, llenyddiaeth a chrefydd, a chaethwasiaeth, crefydd a chymdeithas.

Diddordebau Ymchwil

  • Y Beibl a chaethwasiaeth.
  • Caethwasiaeth a chrefydd.
  • Anghydffurfiaeth Gymreig a diwylliant print crefyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
  • Iddewiaeth a Christnogaeth a’u deialog ryng-grefyddol.
  • Seioniaeth, Iddewiaeth, a Christnogaeth.
  • Llenyddiaeth a Chrefydd.
  • Paganiaeth.

Cyfleoedd Project Ôl-radd

’Rydwyf yn fodlon goruchwylio cwrs PhD

Cyhoeddiadau

2026

  • Cyhoeddwyd
    Huskinson, L., Evans-Jones, G., Andrews, J. & Healand-Sloan, R., 13 Hyd 2026, 17 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Huskinson, L., Evans-Jones, G., Andrews, J. & Healand-Sloan, R., 13 Hyd 2026, 19 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G., 9 Maw 2026, Yn: Journal of Dialogue Studies. 13, t. 45-71 4.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid

2025

  • Cyhoeddwyd
    Dafydd, E. (Golygydd) & Evans-Jones, G. (Golygydd), 1 Chwef 2025, Y Lolfa.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2024

  • Cyhoeddwyd
    Huskinson, L., Evans-Jones, G. (Cyfrannwr) & Andrews, J. (Cyfrannwr), 2 Ebr 2024, 24 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Andrews, J. (Cyfrannwr), Evans-Jones, G. (Cyfrannwr), Healand-Sloan, R. & Huskinson, L., 2 Ebr 2024, 23 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adoddiad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G., 1 Tach 2024, Globalising Welsh Studies : Decolonising history, heritage, society and culture. University of Wales Press, t. 41 69 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid

2023

  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G., 4 Awst 2023, 1af gol. Llandysul: Cyhoeddiadau Barddas. 136 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2022

  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G. & Fowler, O. (Darlunydd), 5 Awst 2022, Y Lolfa. 112 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G., 1 Rhag 2022, Yn: Llên Cymru. 45, 1, t. 162-196 35 t., 5.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G. & Jones, A. L. (Golygydd), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 15 Gorff 2022, 1 gol. Caerdydd: University of Wales Press. 354 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

2019

  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 1 Maw 2019, Yn: Gwerrdon. 28, t. 21-42 21 t., 2.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 22 Gorff 2019.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 15 Tach 2019.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid

2018

  • Cyhoeddwyd
    Evans-Jones, G., 1 Hyd 2018, Cyntaf gol. Caernarfon: Gwasg y Bwthyn. 104 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 6 Mai 2018
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 29 Ion 2018.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur

2017

  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 26 Chwef 2017
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 12 Gorff 2017.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 1 Maw 2017, Yn: Gwerddon. 23, t. 58-84 3.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid

2016

  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 10 Meh 2016.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 10 Medi 2016.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 1 Hyd 2016, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, Volume XXXV: 2015. 1af gol. Cambridge, MA: Harvard University Press, Cyfrol 35. t. 109-128
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid

2015

  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 11 Hyd 2015.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 25 Meh 2015.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid

2014

  • Cyhoeddwyd
    Evans Jones, G., 1 Awst 2014, Yn: Tu Chwith. 40, t. 83-91
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid

Gweithgareddau

2026

  • Designed and delivered a three session online short course exploring the contemporary challenges facing democratic systems and institutions. The course examined key political and philosophical issues surrounding democratic stability, populism, political disengagement, misinformation, protest and political violence. Aimed at prospective university students and the wider public, the course encouraged critical engagement with questions of political legitimacy, institutional trust, democratic participation and the resilience of modern democracy. Through accessible teaching and structured discussion, participants were encouraged to critically evaluate the pressures facing democratic societies and reflect on the relationship between political power, citizenship and democratic accountability.

    26 Hyd 2026 – 28 Hyd 2026

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
  • Designed and delivered a three session public short course exploring the supernatural through the interdisciplinary perspectives of philosophy, ethics and religion. The course examined fundamental questions surrounding the nature of evil, demonic possession, monsters and humanity's enduring fascination with the unknown. Drawing upon philosophical enquiry, ethical reasoning and religious traditions, participants were encouraged to critically evaluate supernatural beliefs, challenge established assumptions and reflect on the boundaries between the natural and supernatural. Through accessible teaching and structured discussion, the course promoted critical thinking, intellectual curiosity and deeper engagement with complex questions concerning belief, morality and the human condition.

    4 Hyd 2026 – 18 Hyd 2026

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)

2025

  • 14 Tach 2025

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Designed and delivered a public short course exploring complex ethical dilemmas, controversial moral questions and taboo subjects within contemporary society. The course encouraged critical thinking, philosophical enquiry and open discussion, challenging participants to examine established moral frameworks, question societal norms and engage with diverse ethical perspectives in a thoughtful and intellectually rigorous environment.

    25 Medi 2025 – 20 Hyd 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
  • Cwrs yn trafod canmlwyddiant Plaid Cymru. Papurau gan Marged Tudur, Gareth Evans-Jones a Mari Elin Wiliam gyda chyfweliad hanes llafar rhwng Nia Thomas (BBC) a chyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.

    21 Meh 2025

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
  • Designed and delivered an introductory public short course exploring fundamental philosophical questions, key thinkers and major traditions of philosophical thought. The course introduced participants to core concepts in ethics, metaphysics, epistemology and the philosophy of religion, encouraging critical thinking, logical reasoning and intellectual enquiry. Through accessible teaching and structured discussion, participants developed the confidence to engage with complex philosophical ideas, critically evaluate arguments and reflect on questions concerning knowledge, existence, morality and the human condition.

    13 Ion 2025 – 10 Chwef 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)

2024

  • Sgwrs yn Palas Print, Caernarfon.

    30 Medi 2024

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)

2023

  • Cadeirio lansiad y gyfrol Curiadau gan Gareth Evans Jones (gol.)

    10 Tach 2023

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Darlleniad yn lansiad Y Cylch gan Gareth Evans Jones

    31 Hyd 2023

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
  • Sgwrs am gyfraniad a gwaddol y pregethwr a'r diwinydd trawiadol, John Elias.

    18 Medi 2023

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Ym mhabell Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliwyd yr olaf o sgyrsiau cyfres 'Hunaniaethau: Cymreictod' a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Thema'r sesiwn oedd Cymreictod yn y Celfyddydau Cwiyr a chafwyd trafodaeth eithriadol ddiddorol gyda thri ymarferydd creadigol cwiyr: Osian Gwynn (Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Pontio), Leo Drayton (bardd, llenor, dramodydd a pherfformiwr), a Megan Lloyd (cydlynydd Trac Cymru, bardd a pherfformiwr).

    10 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Ddydd Mercher 9 Awst, cynhaliwyd lansiad ym mhabell Paned o Ge yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cadeiriais y sesiwn eithriadol ddiddorol a chael cyfle i holi amryw o'r cyfranwyr: Melda Lois Griffiths, Gruffydd Sion Ywain (dylunydd y gyfrol), Bethany Celyn (Golygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas), Elgan Rhys, Leo Drayton a Bethan Marlow.

    9 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Sgwrs gyda Sian Melangell Dafydd am wrachod hanesyddol a chyfoes, a'r hyn mae 'gwrach', 'gwrachyddiaeth' a 'gwrachaidd' yn ei olygu.

    7 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Cefais y cyfle i gadeirio sesiwn drafod ym Mhabell Len Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd am gynrychiolaeth LHDTC+ mewn llyfrau a gyhoeddwyd yng Nghymru ers 2000. Aelodau'r panel oedd Lois Gwenllian, Nia Wyn Jones, Llyr Titus, a Dylan Huw.

    7 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Cynhaliwyd lansiad cyfrwng Cymraeg Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ym mhabell Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023. Rhoddodd Joshua Andrews a minnau gyflwyniad i'r Ganolfan fel ei chyd-gyfarwyddwyr. Cafwyd cyfraniadau diddorol iawn gan Emilia Johnson, Daniel Latham, Modlen Lynch, a Natasha Roberts, ynghyd a sgwrs ddifyr iawn gyda Kristoffer Hughes, Prif Dderwydd Urdd Ynys Mon. Cawsom gyhoeddi hefyd mai Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, fydd Cymrawd Anrhydeddus cyntaf y Ganolfan.

    6 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
  • Aelod o banel trafod dan gadeiryddiaeth Iolo Cheung ynghylch a oes digon o gynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg. Aelodau eraill y panel oedd Malachy Edwards, Sioned Erin Hughes, Simon Chandler, Elen Wyn a Simon Brooks.

    6 Awst 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
  • Rhoddais sgwrs am fy nghyfrol, 'Cylchu Cymru', yn rhan o brifwyl Dolgellau.

    22 Gorff 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Sesiwn drafod arfer a diwylliant drag yn y Gymraeg. Cefais y cyfle i holi'r frenhines drag, Biwti, trafod fy nrama, 'Cadi Ffan a Jan', ac ystyried pa agweddau athronyddol ar berfformio drag sy'n eu hamlygu eu hunain, gan gynnwys rhyddid mynegiant, herio rhagdybiaethau cul, daliadau am rywedd a rolau penodol. Cynahliwyd y sgwrs hon yn stondin Prifysgol Bangor.

    16 Gorff 2023

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)

2021

  • Cadeirio Panel Trafod am 'Granogwen a Prosser Rhys'

    24 Meh 2021

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 24 Maw 2021

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 24 Maw 2021

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2020

  • 1 Tach 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 20 Hyd 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 30 Awst 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 15 Gorff 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 5 Gorff 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Cyflwyno Papur am yr Holocost a'r X-Men

    1 Gorff 2020

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • 17 Meh 2020 – 22 Gorff 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cynhadledd Adolygu ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Hanes. Trafodais yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd yn y bore ac yna Hawliau Dynol yn y prynhawn.

    28 Chwef 2020

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • 6 Chwef 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Sgwrs am y broses greadigol mewn cyfryngau gwahanol.

    22 Ion 2020

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2019

  • Sgwrs am John Gwilym Jones ac etifeddiaeth ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru.

    17 Tach 2019

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Sgwrs drwy wahoddiad yn ystod noson a drefnwyd gan bwyllgor Eisteddfod Marianglas i ddathlu llwyddiant Dr Gareth Evans-Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019

    3 Hyd 2019

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr)
  • Cyflwyno Papur: ‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’: Cysyniadau Beiblaidd a Diddymiaeth y Cymry Americanaidd.

    22 Gorff 2019

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Sgwrs â Merched y Wawr Porthaethwy am lenydda mewn gwahanol gyfryngau.

    20 Chwef 2019

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Sgwrs am y Cymry yn yr Unol Daleithiau ynghylch caethwasiaeth y 19eg ganrif.

    28 Ion 2019

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2018

  • Trafodaeth am dri Chymro a deithiodd i America a'u gweithgareddau llenyddol, gweinidogaethol, a gwleidyddol, yn enwedig yng nghyd-destun caethwasiaeth.

    14 Rhag 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Cyfweliad gyda Newyddion 9 am brosiect o'r enw Ail-Gysylltu/RE-Connect a fydd yn cynorthwyo athrawon a disgyblion wrth astudio Addysg Grefyddol ar lefel Safon Uwch, ac yn annog myfyrwyr i ystyried gyrfa fel athro/athrawes Addysg Grefyddol

    12 Tach 2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Sgwrs a gyflwynwyd i Gymdeithas Hanes y Tair Llan, Llanwnda, Gwynedd.

    9 Tach 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Darlleniad yn lansiad y gyfrol Eira Llwyd gan Gareth Evans Jones (Gwasg y Bwthyn), yn Pontio, Bangor

    18 Hyd 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • 22 Medi 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Cyflwyno papur: 'Dyn v. Duw: Cyfraith y Caeth Ffoedig a Gwasg Gymraeg America'

    26 Gorff 2018

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Cyflwyno seminar: ‘Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol yn y Brifysgol’.

    28 Meh 2018 – 29 Meh 2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Cyflwyniad am astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol

    12 Meh 2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru: 'Golygyddion Cymraeg America a Chaethwasiaeth'

    6 Mai 2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.

    1 Chwef 2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Sgwrs wadd gyda Chylch Llenyddol Bodffordd, Ynys Môn

    29 Ion 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2017

  • Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.

    6 Rhag 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.

    24 Tach 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Cyflwyniad am bwysigrwydd astudio Athroniaeth a Chrefydd yn y brifysgol.

    20 Tach 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Un o gyfranwyr sesiwn goffa'r diweddar Sian Owen, Marian-glas yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

    7 Awst 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Cyflwyno papur: 'In Exile: Welsh-Americans andAfrican-American Slaves (1838-1865)'

    12 Gorff 2017

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Sgwrs a gyflwynwyd yng Nghapel Paradwys, Llanallgo, Ynys Môn

    26 Chwef 2017

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)

2016

  • Cyflwyno papur: ‘The “Children of Ham” and the “Race of Gomer”’

    10 Medi 2016

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Cyflwyno papur: ‘“Gweledigaeth” y Bedyddiwr Cwsg: Treftadaeth lenyddol J. P. Harris (Ieuan Ddu)'

    10 Meh 2016

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)

2015

  • Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr and Y Dyngarwr: Two Welsh-American Abolitionist Journals?

    11 Hyd 2015

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Cyflwyno papur: 'Y Cenhadwr a'r Dyngarwr: Caethwasiaeth, Crefydd a'r Cymry yn America (1840-3)'

    26 Meh 2015

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)

Grantiau a Projectau Eraill

  • 2024: Ìý£26,671. Culham St Gabriel's Award.
  • 2024: Ìý£30, 451. ÌýBangor Impact Award.
  • 2023: £2500, Small Grant by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • 2022: Ìý£85,000, Corporate Grant Award. All Saints Educational Trust.
  • 2022: £2500 Collaborative Grant by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol to establish a monthly series of webinars entitled ''.
  • 2019: Welsh Medium Education Award (Student Lead Teaching Awards)

Gwybodaeth Arall

Dyletswyddau Gweinyddol

  • Tiwtor Personol
  • Swyddog Materion Cymraeg Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd
  • Swyddog Cyfathrebu Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
  • Swyddog Cenhadaeth Ddinesig Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Ìý

Cydnabyddiaethau/Llwyddiannau

  • Ennill gwobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023 am fy nghyfrolÌýCylchu Cymru.
  • Ennill Grant gan Gymdeithas Awduron Prydain i lunio cyfrol o lên feicro (2021).
  • Ennill Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2019.
  • Ennill Ysgoloriaeth Awdur NewyddÌýgan Lenyddiaeth Cymru i weithio ar nofelÌý(2017).
  • Ennill Ysgoloriaeth Ieithoedd Celtaidd AHRC i gwblhau ymchwil y PhD (2014).
  • Ennill Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen (2013).
  • Ennill Ysgoloriaeth Mynediad i Radd Meistr (ATM) ar gyfer y cwrs MA (2012).
  • Ennill Gwobr Dr John Robert Jones gan Brifysgol Bangor am fod yn un o ‘fyfyrwyr gorau’r flwyddyn’ (2012).
  • Ennill Gwobr Syr John Morris-Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau fy arholiadau gradd BA (2012).
  • Ennill Gwobr Robert Richards gan Brifysgol Bangor am ansawdd fy nhraethawd hir israddedig am bwnc yn ymwneud â’r Gyfraith, Astudiaethau Crefyddol neu Hanes (2012).
  • Ennill Gwobr Thomas L. Jones gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor am ganlyniadau arholiadau ail flwyddyn fy ngradd (2011).
  • Ennill Gwobr R. T. Robinson gan Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor, am safon fy ngwaith yn ystod blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd (2010).

Aelodaeth

  • Cymrawd Cydymaith Academi Addysg Uwch.
  • Aelod o Gyngor Cristnogion ac Iddewon (CCJ).
  • Aelod o Senedd Prifysgol Bangor.

Golygyddol

  • Cyd-olygyddÌýYsgrifau Beirniadol gyda Dr Elis Dafydd (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd).

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau

  • Staff
    • Dr Gareth Evans-Jones
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor