ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
Ymchwilydd troseddol yn casglu gwybodaeth ar fwrdd pin

Graddau Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol Israddedig

Ym Mhrifysgol Bangor, mae troseddeg yn ymarferol, yn cael effaith, ac wedi'i chysylltu'n ddwfn â'r byd go iawn. Mi fyddi’n archwilio achosion troseddu, cyfiawnder ac adsefydlu trwy fentrau byd go iawn ac yn ennill profiad ymarferol trwy gyfleoedd lleoliadau. Gyda chefnogaeth cymuned glos a staff arbenigol, mi fyddi’n graddio'n barod i lunio dyfodol sy'n gwneud gwahaniaeth.

Diwrnod Agored Ein Cyrsiau 

Ar y dudalen hon:
Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Elli Garland Mae'r addysgu yn fy nghwrs o safon uchel iawn

Yn astudio: Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

 Wyt ti yn mwynhau dy gwrs? 

"Rwy'n mwynhau fy nghwrs yma ym Mangor yn fawr iawn; mae'n gwrs diddorol iawn gyda digon o lwybrau gyrfa posibl i'w hystyried." 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried astudio ym Mangor? 

"Byddwn i'n dweud ewch amdani, ond byddwch yn barod i wneud y gorau o'r agweddau academaidd a chymdeithasol. Mae Bangor yn cynnig ymdeimlad cryf o gymuned, ac mae’r ffaith ei bod hi’n brifysgol gweddol fach yn golygu y byddwch yn aml yn cael mwy o gefnogaeth bersonol gan ddarlithwyr o'i gymharu â mewn prifysgolion mwy."

Mae’r arddull addysgu’n gefnogol iawn. Mae’r darlithwyr yn annog trafodaeth agored a meddwl yn feirniadol, nid jest dysgu ffeithiau. Mae hyn yn gwneud y sesiynau’n fwy bywiog ac yn helpu fi deimlo’n hyderus i ofyn cwestiynau ac ymuno yn y drafodaeth.

Aeron Dafydd,  Yn astudio: Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai  Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol  ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.