ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
 Dau fyfyriwr y gyfraith yn y ffug lys

Graddau Israddedig Y Gyfraith

Astudia’r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor a rhoi cyfiawnder ar waith. Yn ail yn y DU ar gyfer y Gyfraith (Unifresher 2027), byddi di’n dysgu gan arbenigwyr y mae eu hymchwil yn llunio'r dirwedd gyfreithiol, wrth ddatblygu sgiliau profiad ymarferol cyfreithiol ac ennill profiad byd go iawn. Gyda cyfleoedd ar gyfer interniaethau, cystadlaethau cyfreithiol ac ymgysylltu â chyflogwyr, bydd gradd yn y Gyfraith yn dy arfogi â'r sgiliau, yr hyder a'r cysylltiadau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol - yn y proffesiwn cyfreithiol a thu hwnt.

Ar y dudalen hon:
Dechreuwch eich gyrfa yn y gyfraith

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

Dod o hyd i gwrs yn y Gyfraith

Cyfraith Droseddol - LLB (Anrh)
Datblygwch sgiliau cyfreithiol a sgiliau eiriolaeth, ennill profiad yn y llys a dod i ddeall y system gyfreithiol. Dewch i ddatrys problemau cymhleth gydag ymarfer moesegol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd cyfreithiol amrywiol.
Cod UCAS
M212
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith - LLB (Anrh)
Ymchwilio i egwyddorion cyfreithiol a dadansoddiadau beirniadol. Hogwch sgiliau eiriolaeth a sgiliau’r llys, byddwch yn gynheilydd ymarfer moesegol, a dilynwch yrfaoedd amrywiol yn y gyfraith neu ym maes polisi a gwasanaeth cyhoeddus.
Cod UCAS
M100
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith (Mynediad i Raddedigion) - LLB (Anrh)
Meistrolwch sgiliau cyfreithiol a datrys problemau trwy raglen ddwy flynedd ddwys. Enillwch brofiad yn y llys a pharatoi am gyfleoedd gyrfa amrywiol yn y gyfraith neu ym maes polisi ac eiriolaeth.
Cod UCAS
M101
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
2 Flynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith (gyda Blwyddyn Sylfaen) - LLB (Anrh)
Adeiladwch sylfaen gyfreithiol i chi eich hun a dod i ddeall y system gyfiawnder. Enillwch sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
M10F
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Chymraeg - LLB (Anrh)
Dewch yn arbenigwr cyfreithiol dwyieithog yng Nghymru. Mae’r Gyfraith gyda Chymraeg yn eich paratoi am yrfaoedd cyfreithiol sy'n gofyn am ruglder yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cod UCAS
M1Q5
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth - LLB (Anrh)
Dewch i feistroli cydadwaith y gyfraith a gwleidyddiaeth. Dadansoddwch bolisïau, datblygwch sgiliau eiriolaeth, cymrwch ran mewn dadansoddiadau beirniadol.
Cod UCAS
M1L2
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith gyda Ieithoedd Modern - LLB (Anrh)
Pontiwch fydoedd cyfreithiol gydag ieithoedd. Dewch i feistroli arbenigedd cyfreithiol mewn nifer o ieithoedd, sgiliau negodi a sgiliau rhyngddiwylliannol.
Cod UCAS
M1R8
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith gyda Seicoleg - LLB (Anrh)
Astudiwch gyfraith trosedd ar y cyd â seicoleg fforensig neu gyfraith cwmnïau ynghyd â seicoleg defnyddwyr gyda'r cwrs LLB (Anrh.) Cyfraith gyda Seicoleg.
Cod UCAS
M1C8
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Throseddeg - LLB (Anrh)
Dewch i ddeall rôl y gyfraith mewn trosedd. Dadansoddwch ymddygiad troseddol, archwiliwch strategaethau atal a dewch i ddeall y system gyfiawnder.
Cod UCAS
M1M9
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, arwain a newid bywydau gyda'n gilydd

Myfyrwyr yn y ffug llys yn edrych ar y camera yn ei gwisg gyfreithiol gydag ysgrifen sy'n darllen Y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor
Trawsgrifiad fideo: Astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn eistedd wrth fwrdd yng Nghaffi Cegin yn dal beiro gyda phapur ar y bwrdd yn chwerthin ac yn sgwrsio â darlithydd a myfyriwr arall. Dau fyfyriwr yn eistedd yn Llyfrgell Shankland yn sgwrsio ac yn gwenu ar ei gilydd gyda llyfrau a gliniaduron ar y ddesg tra bod myfyriwr arall yn brysur yn ysgrifennu ar ddesg yn y cefndir.

[TROSLAIS] â€˜da ni’n gymuned sy’n llywio cyfiawnder hefo’n gilydd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithydd yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Dr Hayley Roberts, Darllenydd mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol.

[TROSLAIS] Ein maint ydi un o’n cryfderau. Felly mi gewch chi’r profiad prifysgol mawr ond mewn lleoliad sy’n teimlo’n gefnogol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r camera'n symud ar draws Ystafell y Ffug Llus o'r gynulleidfa gyda myfyrwyr yn eistedd yn gwylio dau fyfyriwr arall yn ymarfer ar gyfer dadl yn y llys.

[TROSLAIS] Mae gennym ni gymaint o gyfleoedd anhygoel fel ffug lys, clinig y gyfraith ac opsiynau i astudio dramor.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad â chamera o flaen cefndir coch mae testun yn ymddangos yn y gornel chwith isaf yn darllen Holly Jones, Myfyriwr Israddedig LLB y Gyfraith.

[TROSLAIS] Mae’r gymuned yma ym Mangor yn wych - tu fewn a thu allan i’r Gymdeithas Gyfreithiol.

[TROSLAIS] Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cynnig digwyddiadau cyffrous yn aml ac mae’r sîn chwaraeon yma’n wych hefyd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Tudalennau mewn llyfryn yn cael ei droi ar y bwrdd. Myfyrwyr yn sefyll yn gwenu gyda llyfrau yn y cefndir gyda myfyrwyr arall yn eistedd ar y bwrdd yn darllen.

[TROSLAIS] Mae’r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a’r athrawon yn wych yma ac mae’r gefnogaeth maent yn eu gynnig yn wych hefyd.

[TROSLAIS] Mae’r grwpiau tiwtorialau Cymraeg yn dda iawn ar gyfer dal i fyny hefo myfyrwyr Cymraeg arall ac hefyd i ddefnyddio’r iaith wrth astudio.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera yn eistedd o flaen cefndir coch. Yn y gornel gwaelod ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.

[TROSLAIS] Ym Mangor, mi gewch chi gyfle i roi’r pethau ‘da ‘chi’n dysgu yn y dosbarth ar waith.

[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn unigryw oherwydd ei leoliad gwych.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded trwy Stryd Fawr Bangor gydag amryw o siopau a chaffis yn y cefndir.

[TROSLAIS] Wedi’i lleoli yng nghanol Stryd Fawr Bangor, mae ein myfyrwyr yn gweld amryw o gleientiaid ac achosion wahanol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.

[TROSLAIS] Mae bod yn rhan o glinig y gyfraith wedi bod yn brofiad anhygoel.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn eistedd yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Ruth Roberts, myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.

[TROSLAIS] Dwi wedi gwella fy sgiliau drwy weithio hefo cleientiaid sy’n aml o dan straen.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.

[TROSLAIS] Mae rhai o’r sgiliau dwi wedi dysgu, fyswn i byth wedi eu dysgu yn y dosbarth yn unig.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Myfyrwyr a darlithwyr yn y clinig cyfreithiol yn gwneud nodiadau ar gyfrifiaduron.

[TROSLAIS] Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, felly ‘da chi’n gwybod fe gewch chi eich dysgu gan unigolion lle mae'u hymchwil yn llywio polisi'r llywodraeth, ac yn cael effaith go iawn ar bobl cyffredin, ac yn gwneud gwahaniaeth ledled y byd.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn siarad â'r camera gyda chefndir coch. Yn waelod y sgrin ar y cornel chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Owain Evans, Myfyrwyr israddedig LLB Y Gyfraith.

[TROSLAIS] Diolch i'w dysgu nhw a'u cysylltiadau efo'r diwydiant, dwi wedi cael cip gwirioneddol ar fyd y gyfraith - ac wedi cael sawl cyfle gwych o ganlyniad.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Holly Jones yn siarad â'r camera tu blaen i gefndir coch.

[TROSLAIS] O holi cwestiynau mewn Cystadleuaeth Cyfweld Cleientiaid i fod yn hawliwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth Ffug.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer yn y ffug llus. Mae'r camera yn symud o'r dde i'r chwith gydag un myfyriwr yn edrych ar y camera yn dal ffolderi yn gwisgo gwisg gyfreithiol. Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.

[TROSLAIS] Mae astudio’r gyfraith ym Mangor yn agor drysau i gymaint o opsiynau gyrfa.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Fideo stoc o swyddfa fawr yn y ddinas. Llyfrau cyfreithiol ar y bwrdd.

[TROSLAIS] O gyfreithwyr lleol, i gwmnïau dinas a siambrau bargyfreithwyr, i rolau cyfiawnder cymdeithasol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Cyflogwyr mewn ffair yrfa gyda baneri yn y cefndir tra bod myfyrwyr yn siarad gyda'r cyflogwyr.

[TROSLAIS] Mae ein cysylltiadau cryf yn rhoi mynediad i chi i interniaethau, lleoliadau, siaradwyr gwadd a ffair gyrfaoedd fywiog.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch. Olygfa o Brif Adeilad y Brifysgol. Fflag Cymru yn hedfan yn y gwynt.

[TROSLAIS] Mae gennym ni gysylltiadau cryf gyda chwmnïau yn yr ardal hefyd a’r opsiwn i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg .

[TROSLAIS] Mae hyn yn fantais enfawr i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn eu gyrfa yn lleol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr Ruth Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.

[TROSLAIS] Fel rhan o fy ngradd, dwi wedi bod ar leoliad gwaith mewn sefydliad 'not for profit'.

[TROSLAIS] Mae wedi rhoi cysylltiadau gwerthfawr i mi o fewn y gymuned leol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.

[TROSLAIS] Ym Mangor, nid addysgu’r gyfraith yn unig yda ni -'da ni’n creu cyfleoedd, yn adeiladu'r dyfodol ac yn siapio arweinwyr cyfreithiol yfory.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Hayley Roberts yn siarad â'r camera o flaen cefndir coch.

[TROSLAIS] Cyfiawnder ar Waith: Dysgu, Arwain a Newid Bywydau, Gyda'n Gilydd.

Dau fyfyriwr a darlithydd yn eistedd o amgylch bwrdd gyda gliniaduron ar y ddesg yn sgwrsio â chleient yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol.
Trawsgrifiad fideo: Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded yn stryd fawr Bangor gydag amryw o gaffis a siopau yn y cefndir. Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.

[TROSLAIS] Doedden ni ddim am i’r clinig fod ar ein campws roedden ni eisiau fo yng nghanol y gymuned leol ar stryd fawr Bangor.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r daflen Clinig Cyngor Cyfreithiol yn cael ei dal i fyny i'r camera gyda'r testun Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, Clinig Cyngor Cyfreithiol Am Ddim a ddarperir gan fyfyrwyr y Gyfraith ym Mangor. Myfyriwr yn croesawu cleient i'r clinig cyfreithiol.

[TROSLAIS] Hyn sy’n gwneud i ni sefyll allan i gymharu â phrifysgolion eraill.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera. Yn waelod y sgrin ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.

[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn galluogi ein myfyrwyr i roi cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau o’r gymuned leol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn croesawu client i'r clinig cyfreithiol. Dau fyfyriwr yn eistedd o amgylch bwrdd gyda darlithwyr yn siarad gyda'r client yn stafell gyfarfod yn y clinig.

[TROSLAIS] Bydd cleient yn cael ei gyfweld gan ddau fyfyriwr wedi eu goruchwylio gan aelod o staff pob amser.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Nid oes unrhyw gyngor yn cael ei rhoi ar y diwrnod, ond mae’r myfyrwyr yn mynd i ffwrdd, yn gwneud eu hymchwil, ac yna’n ysgrifennu llythyr manwl i yrru yn ôl i’r cleient o fewn pythefnos.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr o amgylch bwrdd yn y clinig. Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Mae’r profiad ymarferol mae’r myfyrwyr yn cael yn y clinig yn eu helpu i ddatblygu sgiliau na fysant yn eu cael y dosbarth yn arferol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr a dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur tra bod y client yn siarad yn y cefndir.

[TROSLAIS] Dyna pam fod cyflogwyr wrth eu boddau hefo clinig.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Eloïse Bordet, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.

[TROSLAIS] I chose to take part in clinic because I wanted to gain practical experience.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar gyfrifiadur yn y clinig gyda darlithwyr hefyd yn cymryd nodiadau yn y cefndir.

[TROSLAIS] I wanted to apply the knowledge I’ve gained throughout my studies.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] I think it's a great environment to learn, it's really helpful for us students, but also for our community.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Tom Jarman, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.

[TROSLAIS]I didn't think I’d be able to sit in front of people from the local area and ask them about their problems and interview them.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r ddau fyfyriwr yn y clinig. Myfyriwr Tom Jarman yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] That’s really improved through clinic and I think things like note taking, letter writing, which you don’t really get from your law degree, you do a lot of assignments and exams, but nothing really practical and I think it's really helped that side of things.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] As an international student, I was obviously kind of scared before starting but we do get a lot of support from Tracey, our supervising solicitor and from the university as well.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded lawr stryd Bangor gydag amryw o siopau yn y cefndir.

[TROSLAIS] The clinic experience is going to make us more employable.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r darlithwyr a dau fyfyriwr yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur cyn bod myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] And it's really going to help in the future in any jobs that involve communication and legal research skills and legal writing skills as well.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Mae ‘na fwlch yn y farchnad ar gyfer cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim yng Ngogledd Cymru.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr yn y clinig cyfreithiol.

[TROSLAIS] Yn ogystal, mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice) yn hynod o brysur, felly mae gwir angen clinig cyfreithiol fel hyn ar gyfer y gymuned leol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] My advice would be to seize the opportunity, don’t be afraid to ask questions.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr a'r darlithwyr yn siarad gyda'r client yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur.

[TROSLAIS] The clinic is a great way to gain legal experience while helping the community.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Crest Prifysgol Bangor yn darllen Prifysgol ÀÖ²¥´«Ã½.

Ein Clinig Cyngor Cyfreithiol

Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol yn gyfle i chi roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith. Siawns i wneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned mae'r clinig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr cynnig cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau’r cyhoedd dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys. Enillodd y clinig y Wobr Pro Bono yng Ngwobrau Legal News Wales 2025 a'r wobr am Gyfraniad Pro Bono Gorau yng Nghymru, yn ogystal â derbyn Canmoliaeth Uchel am y Cyfraniad Pro Bono Gorau Newydd yng Ngwobrau Pro Bono Blynyddol LawWorks 2025.

Ffug lys ym Mhrifysgol Bangor

Ffug lys yw llys barn ffug lle mae dwy ochr yn dadlau pwynt cyfreithiol o flaen rhywun sy’n gweithredu fel barnwr. Mae'n ffordd wych i helpu datblygu sgiliau cyfreithiol, sgiliau dadansoddi a sgiliau dehongli yn ogystal â sgiliau eiriolaeth, ymchwil cyfreithiol, meddwl yn feirniadol a siarad yn gyhoeddus. 

Fel ysgol lai, gallwn gynnig mwy o gyfleoedd ffug lys i fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr y gyfraith ym Mangor yn cael cyfle i ddadlau achosion cyfreithiol ffug, ymateb i gwestiynau ac adeiladu'r hyder sydd ei angen ar gyfer swyddi yn y byd cyfreithiol a thu hwnt.

Oni wedi clywed llawer o bethau da am y cwrs. Y rhan gora ydi'r ffaith bod 'na myfyrwyr Cymraeg eraill a da ni gyd yn gallu trafod am beth da ni wedi ddysgu yn y darlithoedd yn y Gymraeg.

Holly Jones,  Myfyriwr israddedig LLB Y Gyfraith

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Cyn Fyfyriwr - Adam Steven Gulliver

Adam Gulliver

Ni ellir gorbwysleisio’r dylanwad a gafodd Bangor ar fy ngyrfa a fy mywyd. Roedd y ffordd y cyflwynwyd yr addysgu ym Mangor, ynghyd â'r gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol a gefais, wedi caniatáu i mi ffynnu yn academaidd, ac arwain at ennill gradd Dosbarth Cyntaf. Rwy'n priodoli'r llwyddiant mawr hwnnw i raddau helaeth, nid yn unig i'm gwaith, ond hefyd i ymrwymiad ac ymroddiad y darlithwyr ac ansawdd cyffredinol Ysgol y Gyfraith ei hun.

Cwestiynau Cyffredin am Y Gyfraith

Mae LLB (Baglor yn y Gyfraith) yn radd israddedig yn y gyfraith sy'n dy helpu i ddeall sut mae'r gyfraith yn gweithio a sut mae'n llunio cymdeithas. Byddi’n archwilio meysydd allweddol o'r gyfraith wrth ddatblygu sgiliau gwerthfawr mewn ymchwil, meddwl beirniadol, datrys problemau a chyfathrebu.

Galli. Gall pob un o raddau LLB Bangor dy helpu i baratoi ar gyfer y camau nesaf i hyfforddi i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. 

Ochr yn ochr ag astudio meysydd craidd y gyfraith, fe gei di’r cyfle i astudio pynciau sy'n berthnasol i'r Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE), gan roi sylfaen gref i ti ar gyfer gyrfa gyfreithiol.

Yr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr yw'r asesiad y mae'n rhaid ei gwblhau i gymhwyso i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae graddau’r Gyfraith ym Mangor yn cynnig cyfleoedd i astudio llawer o’r pynciau sy’n rhan o’r llwybr yma.

Galli. Mae graddau LLB Bangor yn darparu sylfaen gref i fyfyrwyr sydd eisiau bod yn fargyfreithwyr. Fe alli di astudio'r saith maes sylfaenol o wybodaeth gyfreithiol sy'n ofynnol ar gyfer y cam academaidd o hyfforddiant bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr. Yn ystod dy radd, fe gei di gyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer gyrfa fel bargyfreithiwr trwy weithgareddau fel ymryson llys, gan gynnwys eiriolaeth, ymchwil gyfreithiol a siarad yn gyhoeddus. 

Ar ôl graddio, bydd angen i ti gwblhau hyfforddiant proffesiynol pellach a bodloni'r gofynion a osodwyd gan Fwrdd Safonau'r Bar cyn cymhwyso fel bargyfreithiwr.

Mae gradd yn y Gyfraith yn agor y drws i ystod eang o yrfaoedd. Mae rhai graddedigion yn mynd ymlaen i fod yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr, tra bod eraill yn dilyn gyrfaoedd ym myd busnes, llywodraeth, polisi cyhoeddus, cyllid, plismona, addysg neu'r cyfryngau. 

Mae'r wybodaeth a'r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir drwy astudio'r Gyfraith yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn sawl sector.

Galli. Mae Bangor yn cynnig bob modiwl gorfodol yn y Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag amrywiaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg dewisol. Mae’r modiwlau sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs a ddewisi di, felly edrycha ar dudalennau cyrsiau unigol am fanylion. 

Byddi’n ennill sylfaen gref mewn gwybodaeth gyfreithiol ac yn datblygu sgiliau dwyieithog proffesiynol a all wella dy gyfleoedd gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol ac ystod eang o sectorau eraill.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.