ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Pontio

Wythnos Groeso - Myfyrwyr Israddedig

Bydd y wefan groeso hon yn eich helpu ar eich ffordd i gychwyn eich taith yn fyfyriwr ym Mangor. Bydd yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth hanfodol y bydd ei hangen arnoch wrth i chi ymgartrefu yn eich bywyd fel myfyriwr.

Swyddogion Myfyrwyr ar gyfer 2026-27 yn gwisgo crysau-t fuchsia ac yn eistedd ar rai grisiau y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau.

Croeso gan Undeb Bangor

Undeb Bangor yw enw undeb y myfyrwyr - enw uniaith Gymraeg gan ein bod yn falch iawn o'n gwreiddiau Cymreig.

Y pwyslais ar gyfer yr Wythnos Groeso yw eich helpu i gael eich traed danoch: gan roi digon o gyfle i chi gwrdd â phobl a chymryd rhan gydag Undeb Bangor.

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu allan i Pontio

Eich Amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso

Yma cewch wybodaeth am eich Ysgol Academaidd a'ch amserlen o ddigwyddiadau ar gyfer yr Wythnos Groeso.

Myfyriwr yn ysgrifennu mewn llyfryn efo ffôn symudol a gliniadur ar y ddesg

Cofrestru a Dewis eich Modiwlau

Rhaid i chi gofrestru gyda'r Brifysgol - ar-lein cyn i chi gyrraedd, a chael eich manylion wedi eu gwirio pan fyddwch yn cyrraedd.

Yma fe welwch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch am gofrestru a hefyd am ddewis eich modiwlau.

 Cyfrifydd yn gweithio ar rai taflenni cyllid

Ffioedd a Chyllid

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud yr holl drefniadau ariannol angenrheidiol ar gyfer ffioedd dysgu a’r holl gostau byw, gan gynnwys eich rhent.

urce srcset="/sites/default/files/styles/3x2_600w/public/2022-08/CB_BU_30_10_19__S5_Canon_085.webp?h=2992ba0a&itok=vj2DBNnG 600w, /sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2022-08/CB_BU_30_10_19__S5_Canon_085.webp?h=2992ba0a&itok=d3VucQIj 900w, /sites/default/files/styles/3x2_1200w/public/2022-08/CB_BU_30_10_19__S5_Canon_085.webp?h=2992ba0a&itok=g1h6fvrs 1200w" type="image/webp" sizes="100vw" width="900" height="600"/> Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn ystafell neuadd preswyl

Neuaddau Preswyl

Aros yn Neuaddau'r Brifysgol? Mae'r dudalen hon yn ateb eich holl gwestiynau, gan gynnwys gwybodaeth am Campws Byw a chael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Sudents in quad

Llety Preifat a Byw yn Lleol

Yn byw mewn llety preifat neu'n byw'n lleol ac yn teithio i'r Brifysgol ar gyfer eich astudiaethau?

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am geisio a chael cymorth sy'n ymwneud â llety preifat a sut i gael trwydded parcio i fyfyrwyr.

Arweinwyr Cyfoed yn cerdded drwy bentref Ffriddoedd yn ystod Wythnos Groeso

Arweinwyr Cyfoed

Myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli ac sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr newydd i ymgynefino â bywyd prifysgol yw Arweinwyr Cyfoed. Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr.

Myfyriwr ar liniadur yn gwisgo clustffonau

Sut rydym yn Cyfathrebu â chi

Ym Mangor mae gennym wefan fewnrwyd, FyMangor, a hefyd cylchlythyr wythnosol, y Bwletin Myfyrwyr, a ddefnyddiwn i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pwysig gyda chi.

Myfyrwyr yn sgwrsio a chwerthin.

Cymorth, Lles ac Iechyd

Mae gan Fangor ystod eang o gefnogaeth ar gael pe bai angen ychydig o help neu gyngor arnoch chi - naill ai'n academaidd neu'n ymwneud â'ch lles.

Myfyrwyr yng Nghaffi Cegin, Pontio

Cyfleusterau Campws

Dysgwch fwy am ble i fwyta ac yfed ar y campws a chyfleusterau adloniant a chwaraeon.

Myfyrwyr yn y llyfrgell

Cymuned Ddwyieithog ym Mangor

Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae gan tua 70% o’n staff sgiliau yn y Gymraeg felly mae modd i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.

Myfyrwyr yn cymdeithasu mewn gofod cymdeithasu

Cymuned Gynhwysol Bangor

Gyda myfyrwyr yn dod o bob rhan o'r byd ac o gefndiroedd gwahanol iawn, bwriad Prifysgol Bangor yw creu amgylchedd i chi fyw ac astudio ynddo sy'n sicrhau y gellwch fod yn chi eich hun, cymryd mantais o bob cyfle a chyrraedd eich llawn botensial.

Llun o ddwylo yn gafael mewn planhigyn bychan

Cynaliadwyedd ym Mangor

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn bwriadu gwneud ein Prifysgol yn gyfystyr â chynaliadwyedd.

Myfyrwyr yn astudio yn y llyfrgell

Siarter Myfyrwyr

Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn falch o’r bartneriaeth agos sydd gennym gyda’r myfyrwyr a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu profiad unigryw myfyrwyr Bangor. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein Siarter Myfyrwyr.