Mae hyfforddiant Ymyrryd fel Gwyliedydd (Bystander Training), a ddarperir gan Helen Munro, yn rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau ymarferol i fyfyrwyr a staff adnabod sefyllfaoedd a allai fod yn niweidiol, herio ymddygiad amhriodol mewn ffordd ddiogel, ac ymyrryd yn effeithiol i gefnogi eraill. Ym Mhrifysgol Bangor, mae'n rhan o ymrwymiad y Brifysgol i feithrin cymuned ddiogel, barchus a chynhwysol i bawb.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a'r ystafell ar Fap y Campws.