Mae eich presenoldeb digidol a'ch proffesiynoldeb yn hanfodol i'ch llwyddiant academaidd a'ch llwyddiant gyrfaol yn y dyfodol. Fel rhan o'n hymrwymiad i feithrin amgylchedd ar-lein parchus, cyfrifol a phroffesiynol, mae'n ofynnol i bob myfyriwr gwblhau'r modiwl Proffesiynol or Diwrnod Cyntaf.
Mae'r modiwl hwn yn rhoi canllawiau pwysig ar sut i ymddwyn ar-lein, amddiffyn eich hunaniaeth ddigidol, cyfathrebu'n briodol mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol, a defnyddio offer digidol yn gyfrifol. Cymerwch yr amser i adolygu'r deunydd yn drylwyr gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Bydd y ddolen yn mynd â chi i dudalen Blackboard Croeso'r Ysgol. Yma, fe welwch recordiadau o sesiynau Wythnos y Croeso, dolenni defnyddiol i dudalennau gwe ac adnoddau perthnasol, copi electronig o lawlyfr eich rhaglen, a'r modiwl hwn.
I gael mynediad at dudalen Blackboard, bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr Prifysgol Bangor — sef rhan gyntaf eich cyfeiriad e-bost prifysgol — a'ch cyfrinair (er enghraifft, xyz2def).