Àֲ¥´«ý

Fy ngwlad:
Gosod papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio

Graddau Gwleidyddiaeth Israddedig

Mae astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfle i ti archwilio sut mae syniadau a phenderfyniadau gwleidyddol yn llunio cymunedau yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd. Byddi’n dysgu mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol, lle byddi’n cael dy adnabod wrth dy enw ac yn cael dy annog i fagu hyder. Yma, byddi’n trafod materion pwysig ac yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnat i agor drysau llawn posibiliadau yn y dyfodol.

Diwrnod Agored Ein Cyrsiau 

Ar y dudalen hon:

Darganfyddwch y cwrs Gwleidyddiaeth i chi

Gwleidyddiaeth - BA (Anrh)
Dewch i archwilio byd cymhleth gwleidyddiaeth. Dadansoddwch ideolegau a systemau gwleidyddol. Ewch yn eich blaenau i ddilyn gyrfaoedd amrywiol mewn llywodraeth, ymgynghoriaeth wleidyddol neu newyddiaduraeth.
Cod UCAS
L200
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Gwleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Datblygwch eich dealltwriaeth wleidyddol a hogi sgiliau meddwl yn feirniadol trwy wneud blwyddyn sylfaen. Dewch i feistroli dadansoddi ac ymchwil gwleidyddol.
Cod UCAS
L20F
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth - LLB (Anrh)
Dewch i feistroli cydadwaith y gyfraith a gwleidyddiaeth. Dadansoddwch bolisïau, datblygwch sgiliau eiriolaeth, cymrwch ran mewn dadansoddiadau beirniadol.
Cod UCAS
M1L2
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL

Diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor?

Mae ein cwrs byr rhad ac am ddim wedi ei dylunio ar gyfer myfyrwyr lefel A ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth yn y brifysgol. Maent yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut beth yw astudio Gwleidyddiaeth ar lefel gradd.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwleidyddiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwleidyddiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwleidyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Gwleidyddiaeth

Mae'r ymchwil gyffrous a phwysig a wneir gan ein staff academaidd yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn cynnwys ystod eang o bynciau ac arbenigeddau ym maes gwleidyddiaeth, gan gynnwys themâu megis: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles; Cymunedau, Diwylliannau, Iaith a Hunaniaethau; Trosedd, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas; Llywodraethu, Hanes Gwleidyddol a llawer mwy.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.