ÀÖ²¥´«Ã½

Fy ngwlad:
Dau fyfyriwr yn cerdded lawr y grisiau a thri myfyriwr yn eistedd ar y wal yn sgwrsio yn y cwad mewnol

Graddau Saesneg Israddedig

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Diddordeb mewn astudio gradd Saesneg yn y brifysgol? P'un a oes gennyt ddiddordeb mewn iaith, yn cael dy ysbrydoli gan lenyddiaeth, neu'n awyddus i ddatblygu dy sgiliau ysgrifennu creadigol, mae ein graddau Saesneg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cyffrous.

Ar y dudalen hon:

Lleoedd Ar Gael Ar Gyfer Medi 2026!

Barod i ymuno â ni yn yr Hydref? Mae lleoedd ar gael ar gyrsiau yn y maes pwnc yma yn cychwyn ym Medi 2026.

Efo Canlyniadau? Gwnewch Gais Nawr Am Gwrs Clirio Disgwyl Am Ganlyniadau? Cofresrwch Ddiddordeb Mewn Clirio

Darganfyddwch y cwrs Saesneg i ti

Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch gerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol ac archwilio geiriau a’r grefft o ddweud stori. Darganfyddwch lwybrau gyrfa unigryw ym meysydd cyfansoddi caneuon a chelf.
Cod UCAS
WW38
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Archwiliwch fydoedd llenyddol y Gymraeg a’r Saesneg. Dadansoddwch y clasuron, ymchwiliwch i draddodiadau cyfoethog, a datglowch bŵer dweud stori mewn dwy iaith.
Cod UCAS
3Q5Q
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Cyfle i ddatblygu sgiliau a thechnegau i gynhyrchu deunydd clywedol yn ogystal â sgiliau allweddol hanfodol yn llawer o'r diwydiannau creadigol.
Cod UCAS
33PQ
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Hanes a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Cyfunwch gyfoeth hanesyddol gyda dadansoddi llenyddol. Ymchwiliwch i gyd-destunau diwylliannol a mireinio sgiliau cyfathrebu.
Cod UCAS
3QV1
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Archwiliwch sut mae Saesneg yn gweithio, pam a sut y caiff ei defnyddio, ac o ble y daeth. Darllenwch a dadansoddwch ystod o lenyddiaeth Saesneg mewn gwahanol genres.
Cod UCAS
QQC3
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Archwiliwch sut mae Saesneg yn gweithio a datblygu sgiliau ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau. Lansiwch yrfaoedd llwyddiannus mewn ysgrifennu, cyhoeddi a mwy.
Cod UCAS
Q3WL
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (gyda Blwyddyn Sylfaen) - BA (Anrh)
Archwiliwch sut mae Saesneg yn gweithio, pam a sut y caiff ei defnyddio, ac o ble y daeth. Darllenwch a dadansoddwch ystod o lenyddiaeth Saesneg mewn gwahanol genres.
Cod UCAS
QQCF
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Ieithyddiaeth A Seicoleg - BA (Anrh)
Dewch i ddeall y cysylltiad rhwng iaith a’r meddwl. Cyfunwch ieithyddiaeth a seicoleg, ac archwilio gwybyddiaeth ddynol a chyfathrebu.
Cod UCAS
Q1C8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg - BA (Anrh)
Archwiliwch hanes y Saesneg a sut mae Saesneg yn cael ei defnyddio mewn cymdeithas. Dilynwch yrfaoedd amrywiol mewn ymchwil, addysg ac ysgrifennu.
Cod UCAS
Q140
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern - BA (Anrh)
Archwiliwch ieithyddiaeth ac ieithoedd gwahanol. Hogwch eich meddwl beirniadol ar gyfer gyrfaoedd amrywiol mewn addysg, cyfieithu ac ymchwil.
Cod UCAS
Q3R8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Archwiliwch wahanol genres a chyfnodau, datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a chyfathrebu. Datblygwch sgiliau ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol yn y byd academaidd ac ym maes cyhoeddi.
Cod UCAS
8H25
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth - BA (Anrh)
Archwiliwch lenyddiaeth a cherddoriaeth. Cewch ddadansoddi nofelau, cyfansoddi alawon, datgloi’r cysylltiadau rhwng geiriau a sain.
Cod UCAS
32N6
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Cyfunwch lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol a mynd ati i adrodd eich straeon eich hun. Archwiliwch lwybrau gyrfa amrywiol ym meysydd y celfyddydau, addysg ac ysgrifennu.
Cod UCAS
2P17
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg - BA (Anrh)
Datblygu sgiliau a thechnegau i gynhyrchu deunydd clywedol yn ogystal â sgiliau allweddol hanfodol yn llawer o'r diwydiannau creadigol.
Cod UCAS
P302
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ysgrifennu Creadigol - BA (Anrh)
Oes arnoch chi eisiau ysgrifennu nofel? Ydych chi’n caru barddoniaeth? Mae arbenigwyr ac awduron cyhoeddedig yn addysgu ar y cwrs hwn, a fydd yn eich helpu i wneud gyrfa ysgrifennu i chi eich hun.
Cod UCAS
W801
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern - BA (Anrh)
Saernïwch straeon sy'n croesi ffiniau. Cyfunwch ysgrifennu creadigol ac arbenigedd mewn iaith. Rhannwch eich llais gyda chynulleidfaoedd byd-eang a dilyn llwybrau gyrfa unigryw.
Cod UCAS
W8R8
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL
Archwilio Ieithoedd a Diwylliannau ym Mhrifysgol Bangor
Trawsgrifiad fideo: Archwilio Ieithoedd a Diwylliannau ym Mhrifysgol Bangor

[Testun ar y sgrin] Croeso i Brifysgol Bangor.

Darlithydd yn arwain dosbarth ysgrifennu sgriptiau. Myfyrwyr yn eistedd mewn cylch, yn gwrando'n astud, ac yn rhannu syniadau gyda'i gilydd.

Dau fyfyriwr yn gweithio gyda'i gilydd yn Archif y Brifysgol, gan archwilio deunyddiau hanesyddol sydd wedi'u gwasgaru ar y bwrdd yn ofalus, gan bwyntio a thrafod yr hyn maen nhw'n ei ddarganfod. Mae silffoedd llyfrau yn leinio'r waliau y tu ôl iddyn nhw.

Mewn labordy tracio llygaid, mae myfyriwr yn canolbwyntio ar sgrin tra bod darlithydd yn gwneud ystumiau ac yn egluro'r data.

Dau fyfyriwr yn cerdded i lawr grisiau Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio wrth sgwrsio.

[Testun ar y sgrin] Dyma'r lle...

Yn ôl yn Archif y Brifysgol, mae darlithydd yn ymuno â'r myfyrwyr. Maen nhw'n siarad gyda'i gilydd ac yn archwilio sgrôl hir wedi'i hagor ar y bwrdd, wedi'i haddurno â dyluniadau arfbais.

[Testun ar y sgrin] …i durio’n ddyfnach...

Mewn labordy ieithyddiaeth, mae un myfyriwr yn siarad i mewn i feicroffon tra bod un arall yn astudio papurau gerllaw. Mae sgrin gyfrifiadur yn dangos recordiadau tonnau sain wrth iddyn nhw drafod eu gwaith gyda'i gilydd.

[Testun ar y sgrin] …i ofyn cwestiynau beiddgar...

Mae myfyrwyr yn cydweithio mewn theatr ddarlithio, gan weithio mewn grwpiau bach, ac yn cymryd eu tro yn siarad ac yn ystumio wrth iddynt rannu syniadau. Mae darlithydd yn sgwrsio ag un grŵp, tra bod eraill yn trafod eu syniadau gyda'i gilydd yn y cefndir.

Mae llun agos yn dangos myfyriwr yn teipio ar liniadur.

[Testun ar y sgrin] …i newid safbwyntiau.

Mae myfyriwr yn gweithio ar liniadur, gan oedi i gymryd rhan mewn trafodaeth â phobl eraill gerllaw.

Y tu allan i Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio, mae dau fyfyriwr yn sefyll yn pwyso yn erbyn y wal gelf liwgar wedi'i phaentio, yn gwenu, yn chwerthin, ac yn edrych ar eu ffonau gyda'i gilydd.

[Testun ar y sgrin] Dyma'r lle...

Mewn ystafell seminar fach, mae murlun yn gorchuddio rhan o'r wal. Mae llyfrau'n eistedd ar fwrdd wrth i ddarlithydd bwyntio at gynnwys ar sgrin deledu ac yn siarad â'r grŵp.

Mae myfyrwyr yn eistedd o amgylch y bwrdd, yn gwrando'n astud ac yn cyfrannu at y drafodaeth.

[Testun ar y sgrin] …i bontio diwylliannau...

Mae llyfrau'n gorwedd ar agor ar fwrdd mewn ystafell seminar fach.

Yn ôl yn y labordy ieithyddiaeth, mae myfyriwr a darlithydd yn siarad ger yr offer tracio llygaid, ac yn trafod sut mae'n gweithio.

[Testun ar y sgrin] …i astudio ochr yn ochr ag arbenigwyr...

Mae myfyriwr yn defnyddio'r dechnoleg tracio llygaid, yn eistedd ac yn canolbwyntio ar y sgrin o'i flaen.

Mae dau fyfyriwr yn cerdded trwy Lyfrgell Shankland, wedi'u hamgylchynu gan silffoedd llyfrau tal.

Gerllaw, mae myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd wrth fyrddau gyda gliniaduron a llyfrau, ac mae myfyriwr arall yn astudio'n dawel yn y cefndir.

[Testun ar y sgrin] …mewn cyfleusterau sydd gyda’r gorau yn y byd.

Mae myfyriwr yn darllen yn ofalus o lyfr agored.

Y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau, mae pedwar myfyriwr yn eistedd gyda'i gilydd o dan awyr las glir, yn sgwrsio ac yn chwerthin.

[Testun ar y sgrin] Dyma'r lle...

Yng nghoridor Adeilad Newydd y Celfyddydau, mae tri myfyriwr â bagiau ar eu cefn yn cario gwerslyfrau, yn sgwrsio ac yn gwenu gyda'i gilydd. Wrth eu hymyl, mae map mawr o'r byd yn llawn delweddau o bob cwr o'r byd.

[Testun ar y sgrin] …i ymuno â chymuned fyd-eang…

Yn Archifau'r Brifysgol, mae dau fyfyriwr yn troi tudalennau llyfrau archifol, gan eu hastudio'n fanwl.

[Testun ar y sgrin] …ac i fod yn rhan o’r sgwrs.

Mae myfyrwyr yn eistedd gyda'i gilydd mewn darlithfa fach, gyda’u llyfrau nodiadau ar agor, yn gwrando ac yn cymryd nodiadau.

Mewn ystafell ddosbarth arall, mae grŵp yn trafod eu gwaith, gan sgwrsio â'i gilydd.

Mae myfyriwr yn pwyntio at sgrin gyfrifiadur yn ystod trafodaeth gydweithredol.

Y tu allan i Brif Adeilad y Celfyddydau, mae dau fyfyriwr yn sgwrsio ac yn chwerthin.

Mae'r fideo yn gorffen gyda golygfa o'r awyr o Brif Adeilad y Celfyddydau gydag awyr las glir yn y cefndir, cyn i arfbais Prifysgol Bangor ymddangos ar y sgrin.

 

Georgina Merckel
Georgina Merckel, Business Operations Consultant and founder of Stiwdio, North Wales

Ble all radd Saesneg fynd â thi?

Gall gradd Iaith Saesneg neu Ieithyddiaeth agor drysau i yrfaoedd mewn amryw o feysydd gan gynnwys cyfathrebu, marchnata, cynnwys digidol, cyhoeddi, y sector cyhoeddus a thechnolegau iaith.

Os wyt ti’n ystyried astudio Iaith Saesneg neu Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, efallai dy fod yn ceisio meddwl sut olwg fyddai ar dy yrfa yn y dyfodol. Daeth digwyddiad gyrfaoedd a chyflogadwyedd diweddar â myfyrwyr presennol a graddedigion Prifysgol Bangor ynghyd i ddangos cymaint o lwybrau gyrfa cyffrous sydd ar gael wrth ddilyn un o’n rhaglenni gradd.

Rhannodd graddedigion brofiadau o rolau gan gynnwys:

  • Peiriannydd Iaith yn gweithio gyda Meta
  • Swyddog Cyfathrebu yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
  • Ymgynghorydd Gweithrediadau Busnes a sylfaenydd Stiwdio North Wales

Roedd y digwyddiad yn tynnu sylw at sut mae'r sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a datrys problemau enillodd y graddedigion yn ystod ei gradd yn cael eu gwerthfawrogi ar draws llawer o sectorau.

Cwestiynau Cyffredin

Gall gradd mewn Saesneg agor y drws i ystod eang o yrfaoedd mewn cyfathrebu, marchnata, cyhoeddi, creu cynnwys, y cyfryngau, technolegau iaith a thu hwnt. Ym Mhrifysgol Bangor, byddi di'n datblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ymchwil sydd yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ac yn dy baratoi i lwyddo yn dy yrfa.

Mae Iaith Saesneg yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn gweithio, sut mae'n newid dros amser, a sut mae pobl yn ei defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae Llenyddiaeth Saesneg yn archwilio nofelau, barddoniaeth, drama a thestunau eraill, gan ymchwilio i'w ystyr a'u cyd-destun diwylliannol a hanesyddol. 

Ym Mangor, mae myfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg yn archwilio genres, megis comedi, llenyddiaeth gothig a ffuglen plant, ac yn cael cyfle i ddarganfod fil o flynyddoedd o hanes llenyddol. Mae myfyrwyr Iaith Saesneg yn ymchwilio i sut mae'r iaith wedi esblygu, sut mae'n adlewyrchu cymdeithas, a sut mae iaith yn llywio'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn deall y byd o'n cwmpas.

Ydi. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o raddau anrhydedd ar y cyd sy'n caniatáu i ti gyfuno Iaith Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg ag Ysgrifennu Creadigol. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i ti ddatblygu dy ddealltwriaeth feirniadol ochr yn ochr â dy ymarfer creadigol.

Mae'r ddau bwnc yn archwilio iaith, ond maent yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol. 

Mae gradd mewn Ieithyddiaeth yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn cael ei dysgu, ei phrosesu a'i defnyddio. Ym Mangor, byddi di'n astudio pynciau megis caffael iaith, amlieithrwydd a seicoieithyddiaeth, gan archwilio'r effaith y mae cymdeithas a diwylliant yn ei chael ar iaith. 

Mae gradd mewn Iaith Saesneg yn canolbwyntio'n benodol ar yr iaith, gan gynnwys sut mae wedi esblygu dros amser, rôl y Saesneg mewn cymdeithas, a sut mae awduron a siaradwyr yn defnyddio iaith i gyfleu syniadau, dylanwadu ar gynulleidfa a chreu ystyr.

Mae'r gofynion mynediad yn amrywio o gwrs i gwrs, edrycha ar dudalen y cwrs unigol am fwy o wybodaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Iaith Saesneg. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Iaith Saesneg llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Iaith Saesneg ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Iaith Saesneg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gen ti ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gen ti ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.